Bydd Morgannwg, sy’n bedwerydd yn yr ail adran, yn teithio i Swydd Gaerwrangon i herio’r tîm sydd yn yr ail safle, Swydd Gaerwrangon.
Ar hyn o bryd mae Swydd Gaerwrangon un pwynt y tu ôl i Swydd Hampshire ar y brig, tra bod Swydd Surrey wedi codi uwchben Morgannwg i fynd yn drydydd yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Swydd Derby.
Pan gyfarfu’r ddwy sir yn gynharach y tymor hwn yn Stadiwm Swalec, gorffennodd yr ornest yn gyfartal yn dilyn dau ganred gan Daryl Mitchell i’r Saeson.
Dydy Morgannwg ddim wedi ennill yng nghae New Road yng Nghaerwrangon ers 2010, pan gipiodd David Harrison 7-45 a James Harris 5-56 wrth i’r Cymry ennill o naw wiced.
Haf diwethaf, sgoriodd seren newydd Lloegr, Moeen Ali 250 i sicrhau’r fuddugoliaeth o wyth wiced.
Bydd Moeen Ali yn cael chwarae yn yr ornest yr wythnos hon ar ôl cael caniatâd arbennig gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr.
Mae Graham Wagg wedi cael anaf i’w ochr, felly mae Will Owen wedi’i gynnwys yn y garfan yn ei le, ac mae Tom Lancefield hefyd wedi cael ei gynnwys.
Bydd Richard Oliver yn ymddangos yng nghrys Swydd Gaerwrangon yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf wedi iddo plesio yn ystod y T20 Blast ac yn ystod ei gemau i’r ail dîm.
Treuliodd capten Swydd Amwythig gyfnod llwyddiannus ar fenthyg cyn derbyn cytundeb tan ddiwedd y tymor nesaf.
Eisoes mae e wedi ymddangos ym mhob un o gemau Swydd Gaerwrangon yn y T20 Blast, ac fe sgoriodd 292 i’r ail dîm yn gynharach yr wythnos hon.
Carfan Morgannwg: J Rudolph, T Lancefield, W Bragg, C Cooke, B Wright, J Allenby, M Wallace (capten), R Smith, A Salter, D Cosker, W Owen, M Hogan
Carfan Swydd Gaerwrangon: D Mitchell, R Oliver, Moeen Ali, T Fell, A Kervezee, T Kohler-Cadmore, B Cox, J Leach, J Shantry, Saeed Ajmal, C Morris, C Russell