Julio Cesar, arwr Brasil yn y ciciau o'r smotyn (ABr/Fabio Rodrigues Pzzebom)
Fe ddaeth Brasil o fewn trwch blewyn i fynd allan o Gwpan y Byd ar ôl i Chile roi gêm agos iawn iddyn nhw yn rownd yr 16 olaf neithiwr.

Roedd yn rhaid penderfynu’r canlyniad ar giciau o’r smotyn ar ôl i’r ddau dîm fethu â’i hennill hi hyd yn oed ar ôl amser ychwanegol.

Brasil sgoriodd gyntaf, gyda chyfuniad o David Luiz a Gonzalo Jara’n troi’r bêl i mewn i’r rhwyd o gic gornel ar ôl dim ond 18 munud.

Ond toc wedi hanner awr o chwarae roedd Chile’n gyfartal ar ôl i Alexis Sanchez fanteisio ar gamgymeriad o dafliad i daro’r bêl i gornel bellaf y rhwyd.

Roedd y ddau dîm yn chwarae pêl-droed ymosodol ac fe gawson nhw ddigon o gyfleoedd hefyd, gyda Neymar, Hulk, Fred, Jo ac Oscar yn methu ar wahanol adegau, a Hulk yn cael gôl heb ei ganiatáu am lawio.

Ond roedd Chile’n fygythiad hefyd hyd yn oed yn yr amser ychwanegol, am ym munud olaf y gêm roedden nhw o fewn modfedd i’w hennill hi wrth i Mauricio Pinilla danio ergyd ar y trawst.

Ciciau o’r smotyn oedd hi felly, a dim ond un o’r pedwar cyntaf a sgoriwyd wrth i Luiz rwydo a Willian fethu Brasil, a Cesar yn arbed ymgeision Pinilla a Sanchez.

Fe sgoriodd Chile eu dwy nesaf, gyda Marcelo hefyd yn rhwydo i Frasil ond Hulk yn methu, felly roedd hi’n 2-2 gydag un yr un i fynd.

Doedd dim nerfau gan Neymar wrth iddo rwydo i’r tîm cartref, ond fe gamodd Jara fyny i Chile a tharo’r postyn er mwyn dechrau’r dathliadau ym Mrasil.

Roced gan Rodriguez

Yn ail gêm rownd yr 16 olaf neithiwr roedd hi rhwng Colombia ac Uruguay i benderfynu pwy fyddai’n wynebu Brasil yn y gêm nesaf.

Doedd gan Uruguay ddim Luis Suarez ar ôl ei waharddiad am frathu, ond Colombia oedd y tîm gorau drwy gydol ac roedd dwy gôl gan James Rodriguez yn ddigon i’w hennill hi iddyn nhw.

Ac am gôl oedd ei gyntaf, wrth iddo reoli peniad gyda’i frest rhyw 25 llathen o’r gôl, cyn troi a thanio foli odidog i frig y rhwyd – un o goliau gorau’r twrnament heb os.

Fe ddyblodd y Colombiaid eu mantais wedi’r egwyl, wrth i Guardado benio croesiad yn ôl yn syth i lwybr Rodriguez a hwnnw’n gorffen y symudiad gydag ergyd syml.

Fe geisiodd Uruguay frwydro nôl, gydag Alvaro Gonzalez, Cristian Rodriguez, Maxi Pereira ac Edinson Cavani’n methu cyfleoedd.

Ond fe orffennodd hi’n 2-0, gyda Colombia’n cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

Gemau heddiw

Yr Iseldiroedd v Mecsico (5.00yp)

Costa Rica v Groeg (8.00yh)