Bu farw Tom Maynard yn 2012
Yn dilyn buddugoliaeth Morgannwg dros Swydd Gaint yng Nghaerdydd y bore ma, talodd capten Morgannwg Mark Wallace deyrnged i Tom Maynard, y cricedwr fu farw yn 2012 yn 23 oed.

Mae’n union ddwy flynedd heddiw ers colli’r cricedwr dawnus, oedd wedi symud i Swydd Surrey ar ôl gadael Morgannwg.

Dywedodd Mark Wallace: “Mae cofio Tom yn beth mawr i ni ym Morgannwg, fe chwaraeodd e ran fawr yn y clwb ac mae e yn ein calonnau ni o hyd.”

Ers ei farwolaeth, mae Ymddiriedolaeth Tom Maynard wedi cael ei sefydlu i helpu cricedwyr difreintiedig ddilyn gyrfa yn y maes.

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys gêm nos Wener nesaf rhwng tîm sydd wedi cael ei ddewis gan ei dad, cyn-gapten a hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, a thîm Sain Ffagan.

Bydd tîm Matthew Maynard yn cynnwys cyn-chwaraewr amryddawn Lloegr Andrew Flintoff, yr Awstraliad Ian Harvey, y paffiwr Joe Calzaghe, y chwaraewyr rygbi Rhys Williams a Danny Cipriani a chapten T20 Morgannwg Jim Allenby.

Mae disgwyl i nifer o chwaraewyr presennol Morgannwg gymryd rhan yn y digwyddiad hefyd.

Dywedodd Matthew Maynard: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod.

“Rwy wrth fy modd fod Andrew Flintoff wedi cytuno i gymryd rhan.

“Fel un o’n noddwyr ni, mae e wedi bod yn graig go iawn i’r Ymddiriedolaeth, ac wedi cymryd rhan yn ein gweithgareddau ni o’r dechrau, ac fe fydd e’n wych ei weld e yn Sain Ffagan.”

Mae mynediad yn £5 i oedolion ac yn rhad ac am ddim i blant, gyda chinio cyn yr ornest a barbeciw yn ystod y prynhawn.

Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Swydd Surrey y deyrnged hon i Tom.