Mae Morgannwg wedi disgyn i’r chweched safle yn ail adran y Bencampwriaeth yn dilyn dwy gornest gyfartal yn erbyn Swydd Gaerlŷr a Swydd Essex yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn y seithfed safle mae Swydd Gaint, bedwar pwynt y tu ôl i Forgannwg.
Ond mae gan y ddwy sir un gêm mewn llaw dros y siroedd eraill.
Dim ond un fuddugoliaeth yr un sydd gan Forgannwg a Swydd Gaint yn y gystadleuaeth hon mor belled y tymor hwn.
Swydd Gaint oedd yn fuddugol yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, ond y Cymry enillodd ar eu tomen eu hunain y tymor blaenorol.
Mae chwaraewr amryddawn Morgannwg, Ruaidhri Smith yn dychwelyd i’r garfan yn dilyn perfformiad campus i Siroedd Llai Cymru yn erbyn Swydd Amwythig ym Mhontarddulais yr wythnos diwethaf.
Tom Helm yw’r chwaraewr sy’n colli ei le.
Carfan Morgannwg: T Lancefield, J Rudolph, W Bragg, B Wright, C Cooke, J Allenby, M Wallace (capten), G Wagg, R Smith, A Salter, D Cosker, M Hogan.