Bydd rhaid i Forgannwg newid eu ffocws yn gyflym wrth iddyn nhw droi o’r T20 Blast i’r Bencampwriaeth ar gyfer eu taith i Chelmsford i wynebu Swydd Essex yn yr ail adran ddydd Sul.

Mae Morgannwg yn drydydd yn yr ail adran, tra bo Swydd Essex yn bedwerydd.

Gorffennodd y ddwy ornest flaenorol rhwng y ddwy sir yng nghae Swydd Essex yn gyfartal.

Dydy Morgannwg ddim wedi ennill oddi cartref yn erbyn Swydd Essex ers 2004.

Bryd hynny, cafodd Swydd Essex yr anrhydedd anarferol o sgorio’r cyfanswm uchaf erioed – 642 – gan dîm a aeth ymlaen i golli gêm.

Dim ond un gêm mae Morgannwg wedi’i cholli yn y Bencampwriaeth hyd yma.

Dydy troellwr llaw chwaith Morgannwg, Dean Cosker ddim yn rhagweld y bydd y Cymry’n cael trafferth addasu i’r fformat hir unwaith eto yn dilyn toriad ar gyfer eu buddugoliaeth yn y T20 Blast dros Siarcod Swydd Sussex yng Nghaerdydd nos Wener.

Dywedodd wrth Golwg360: “Rhaid i chi gyflwyno sgiliau newydd.

“Weithiau, dwi’n cael hynna ychydig yn anodd ond fel cricedwr proffesiynol gyda chymaint o brofiad ag sy gen i, gobeithio ei fod yn dod yn naturiol. Rhaid i chi weithio’n galed ar sgiliau bob dydd, boed rhwng gemau’r Bencampwriaeth neu’r T20…

“Dyw pethau ddim yn ddrwg ar y funud, ac mae wedi fy helpu ‘mod i wedi cipio wicedi drwy’r adeg.”

Darllenwch y cyfweliad llawn yma.

Y ddwy garfan

Mae’r bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg a’r troellwr Andrew Salter wedi’u hychwanegu i’r garfan, ond does dim lle i Will Owen.

Mae Morgannwg hefyd wedi cynnwys Tom Helm, sydd wedi ymestyn ei gytundeb tymor byr tan ganol mis Mehefin.

Mae Swydd Essex wedi cynnwys eu bowliwr cyflym llaw chwith, Reece Topley am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Torrodd Topley, 20, asgwrn yn ei gefn yn ystod y gaeaf.

Bydd Topley yn ymuno â Matt Salisbury a Tom Moore ymhlith y bowlwyr, ac mae troellwr llaw chwith Lloegr, Monty Panesar hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan.

Carfan 12 dyn Morgannwg: T Lancefield, J Rudolph, W Bragg, B Wright, C Cooke, J Allenby, M Wallace (capten), G Wagg, A Salter, D Cosker, M Hogan, T Helm

Carfan 12 dyn Swydd Essex: J Mickleburgh, T Westley, G Smith, J Ryder, M Pettini, B Foakes, J Foster (capten), M Salisbury, M Panesar, R Topley, T Moore, Tanweer Sikander