Dean Cosker
Mae troellwr llaw chwith Morgannwg, Dean Cosker eisoes wedi cipio pum wiced ar ddau achlysur y tymor hwn. Ar drothwy’r T20 Blast yng Nghaerdydd yr wythnos hon, Golwg360 fu’n ei holi am ei obeithion am weddill y tymor.
Dean, mae’r tymor wedi dechrau’n dda i chi’n bersonol. Rhaid eich bod chi’n llawn hyder ar y funud…
“Yn bersonol, mae wedi bod yn dechrau eitha da i’r tymor i fi. Ychydig iawn o droellwyr sy’n bowlio cynifer o belawdau ym mis Ebrill a Mai felly mae wedi body n dda cael cipio cwpwl o wicedi yn y Bencampwriaeth.
O ystyried hynny, rhaid bod gennych chi lygedyn o obaith o chwarae criced rhyngwladol cyn hir…
Yr hyn ry’ch chi’n ei wneud pan y’ch chi’n cyrraedd fy oedran i yw parhau i berfformio dros Forgannwg ac os ydw i’n gwneud yn dda i Forgannwg, dyna’r cyfan alla i wneud. Rheoli’r hyn alla i wneud ar y cae sy’n bwysig. Dwi’n siŵr fod pawb yn ymwybodol o’r hyn alla i wneud. Maen nhw wedi ‘ngweld i’n bowlio am nifer o flynyddoedd. Dwi’n credu ‘mod i’n ddigon da i chwarae dros Loegr. O safbwynt perfformio, dwi’n credu ‘mod i’n gwneud cystal ag erioed.
Sut y’ch chi’n addasu i ofynion cylchdroi rhwng y T20 Blast a’r Bencampwriaeth?
“Rhaid i chi gyflwyno sgiliau newydd. Weithiau, dwi’n cael hynna ychydig yn anodd ond fel cricedwr proffesiynol gyda chymaint o brofiad ag sy gen i, gobeithio ei fod yn dod yn naturiol. Rhaid i chi weithio’n galed ar sgiliau bob dydd, boed rhwng gemau’r Bencampwriaeth neu’r T20… Dyw pethau ddim yn ddrwg ar y funud, ac mae wedi fy helpu ‘mod i wedi cipio wicedi drwy’r adeg.
Dewiswch un – y Bencampwriaeth neu’r T20 Blast?
“Dwi’n draddodiadol, dw i’n hoff o griced pedwar diwrnod. Mae’r T20 yn eich cadw chi ar flaenau’ch traed, mae’n wych o safbwynt masnachol i’r clwb, mae’n dda ar gyfer yr awyrgylch yn y cae. Os y’ch chi’n chwarae o flaen 9,000 i 12,000 mae’n dda ar gyfer criced T20. Hoffen i’n gweld ni’n symud i fyny i adran gynta’r Bencampwriaeth eto a herio am y Bencampwriaeth.
Fe gawsoch chi ddechrau cymysg i’r T20 eleni, on’d do fe….
“Fe wnaethon ni faeddu tîm da iawn Swydd Hampshire ar eu tomen eu hunain ac fe aethon ni i Swydd Essex. Fe gawson ni ddwy gêm anodd dros ben i ddechrau i fod yn onest. Mae Swydd Essex yn dîm undydd da iawn gyda Jesse Ryder a bois eraill yn eu plith. Mae cae Swydd Essex yn le anodd iawn i amddiffyn felly dw i’n meddwl y gwnaethon ni gyflwyno’n hunain yn dda. Dw i wir yn edrych ymlaen at chwarae adre. Dw i’n credu os gallwn ni wneud Stadiwm Swalec yn fath o gadarnle criced T20 – a dw i’n sicr y gwnawn ni – yna, fe fyddwn ni’n herio am le yn y rownd go-gyn-derfynol o leia’.
Sut brofiad fydd cael chwarae yn yr un tîm â Darren Sammy?
“Mae bob amser yn beth positif iawn i chwaraewyr Morgannwg i gael arwyddo chwaraewyr rhyngwladol, gyda’r positifrwydd sy gyda nhw i’w roi i’r bois ifanc a’r bois ychydig yn fwy profiadol hefyd. Y ffordd fydd e’n mynd ati i baratoi ar gyfer gemau sy’n bwysig hefyd. Dysgu o’r bois yma sy’n bwysig. Mae Darren Sammy yn ddiddanwr ledled y byd – mae e wedi chwarae yn yr IPL [yn India], y Caribbean Premier League, mae e’n chwarae mewn pob math o gystadlaethau T20 o amgylch y byd, felly dw i wir yn edrych ymlaen at gael chwarae gydag e.
Roedd yr hyfforddwr Toby Radford yn allweddol yn y broses o ddenu Sammy i Forgannwg. Beth arall mae’n ei gynnig i’r clwb?
“Mae Toby yn ymarferol iawn. Mae’n hoff o dechneg. Mae’n drefnus iawn, fel byddech chi’n ei ddisgwyl gan hyfforddwr. Mae ganddo fe strwythur. Dw i’n sicr y bydd Morgannwg yn gwerthfawrogi’r ffordd mae e’n mynd ati i strwythuro’r sesiynau, y ffordd ry’n ni am chwarae criced, a’r ffordd mae’n denu chwaraewyr rhyngwladol o India’r Gorllewin i’n clwb ni – dyna’r pethau pwysica’. Mae popeth o safbwynt Toby yn bositif iawn – mae ganddo fe berthynas wych gyda Hugh Morris [y Prif Weithredwr], sy’n bwysig iawn i Forgannwg.
Ochr yn ochr â Toby Radford mae Robert Croft. Fe wnaethoch chi chwarae dipyn ag e. Pa mor hawdd oedd hi i fynd o fod yn gyd-chwaraewyr i gael eich hyfforddi gan Crofty?
“Mae e’n datgelu ychydig mwy o’i gyfrinachau erbyn hyn! Crofty yw Crofty. Mae ganddo fe lu o brofiad. Bob dydd, mae e’n ysgwydd i bwyso arno fel troellwr, a dyna sydd ei angen. Fe wnes i chwarae tipyn o griced gydag e felly dw i’n ei nabod e fel cymeriad, sy hefyd yn bwysig. Ry’n ni wedi gwneud tipyn o waith technegol yn ystod y gaeaf, sy wedi dwyn ffrwyth yn y fformat pedwar diwrnod. Ar y cyfan, mae e’n foi da i gael siarad ag e. Mae ei angen e arnon ni yma ym Morgannwg gan ei fod e’n rhan hanfodol o’r clwb. Dw i’n credu bod perthynas Crofty â Toby wedi blodeuo hefyd.
Diolch yn fawr, Dean, a phob lwc ar gyfer gweddill y tymor.