Chris Cooke
Batiwr Morgannwg, Chris Cooke enillodd y wobr a noddir gan Tiger Tiger ar gyfer seren yr ornest yn eu buddugoliaeth yn erbyn Siarcod Swydd Sussex yng Nghaerdydd heno.
Wrth gwrso 179-7, Cooke oedd wrth y llain ar y diwedd pan oedd y canlyniad yn y fantol.
Tarodd 65 oddi ar 31 o belenni i helpu Morgannwg i gipio’r fuddugoliaeth.
Dywedodd wrth Golwg360: “Mae cael cyfrannu i fuddugoliaeth lle roedd ein cefnau yn erbyn y wal yn golygu popeth mewn gwirionedd.
“Fe wnes i daro mwy o bedwarau i’r ffin nag arfer – rwy fel arfer yn eu taro nhw dros y ffin am chwech – mae hynny’n rhywbeth dwi wedi bod yn gweithio arno.
“Roedden ni’n gwybod fod angen 10 neu 11 o rediadau bob pelawd ac roedd y llain yn dechrau cyflymu tua’r diwedd, felly roedd yn lain dda i fatio arni a gobeithio y bydd ’na lawer iawn mwy o gemau gyda chymaint o rediadau yn y dyfodol.
Gyda’r dorf yn aros yn eiddgar am ymddangosiad y seren o India’r Gorllewin, Darren Sammy, parhaodd Cooke i ddangos fod ganddo yntau’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y T20 Blast, ac fe dynnodd y pwysau oddi ar Sammy tua’r diwedd.
Wrth ddisgrifio’r profiad o gael batio gyda Sammy, dywedodd Cooke: “Mae’n swreal ac mae’n galonogol iawn. Ro’n i’n dechrau meddwl “Mae pawb wedi dod i weld Sammy felly wnes i roi’r anrhydedd derfynol iddo fe [o gael taro’r rhediadau buddugol].
“Fe wnaethon ni groesi’r llinell yn y diwedd wedi i ni gwrso’n dda.
“Byddwn ni fwy na thebyg yn hel atgofion ac yn meddwl y gallai fod wedi bod yn dair [buddugoliaeth] allan o dair ond maen nhw’n dri o’r timau da.
“Mae’r bois wrth eu bodd nawr.”
Bydd rhaid i Forgannwg droi eu sylw ddydd Sul at y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw deithio i Chelmsford i wynebu Essex yn yr ail adran, cyn symud ymlaen i Taunton a dychwelyd i’r fformat ugain pelawd unwaith eto.