Morgannwg oedd yn fuddugol yng Nghaerdydd heno o bum wiced yn erbyn Siarcod Swydd Sussex.
Sgoriodd y Siarcod 178-7 yn eu batiad cyntaf ar noson gymylog.
Ond batiwr Morgannwg, Chris Cooke oedd seren y sioe wrth iddo fe daro 65 o rediadau oddi ar 31 o belenni i gyrraedd y nod yn y belawd olaf.
Y Cyfnod Clatsio
Dechreuodd y batiad yn araf i’r ymwelwyr wrth i Graham Wagg fowlio pelawd dynn o gyfeiriad afon Taf, heblaw am ergyd gan fatiwr Lloegr, Ed Joyce i’r ffin i agor y sgorio.
Cadwodd yr Awstraliad Michael Hogan bopeth yn dynn o ben Heol y Gadeirlan hefyd, gan faeddu’r bat nifer o weithiau ar lain oedd yn gwyro o’r dechrau.
Dechreuodd y clatsio yn y drydedd pelawd, wrth i Luke Wright daro chwech dros ben y bowliwr cyn iddo daro ergyd arall a laniodd ychydig o flaen Murray Goodwin yn safle’r goes fain bell.
Cafodd Hogan ei dynnu allan o’r ymosod yn y belawd nesaf, wedi’i ddisodli gan Will Owen, a gafodd ei daro gan Wright am chwe rhediad dros ei ben i gyfeiriad y gadeirlan.
Newidiodd Hogan i ben afon Taf yn y bumed pelawd ac fe wnaeth ddwyn ffrwyth wrth i Luke Wright dynnu i gyfeiriad Ben Wright a chael ei ddal am 22.
Ymunodd wicedwr Lloegr yn yr hwyl oddi ar belen ola’r belawd, gan dynnu am bedwar rhediad i ymestyn y cyfanswm i 39-1.
Daeth 13 o rediadau oddi ar belawd nesaf Owen, wrth i Prior ei daro am ddau bedwar mewn dwy ergyd union yr un fath i’r ffin i ymestyn y cyfanswm i 52-1 oddi ar chwe phelawd.
Yn dilyn pelawd agoriadol dynn gan Jon Lewis i’r Siarcod o ben afon Taf, bu bron i Yasir Arafat gipio wiced y capten Jim Allenby, yr Awstraliad yn ergydio yn syth i fyny i’r awyr, a’r bêl yn glanio rhwng tri maeswr oedd yn edrych ar ei gilydd mewn syndod.
Wrth redeg rhediad cyflym oddi ar belen gynta’r belawd nesaf, llwyddodd Jacques Rudolph i oroesi ymgais gan Michael Yardy i’w redeg allan cyn i Allenby daro pelen ola’r belawd i mewn i eisteddle’r pafiliwn am chwech – cyfanswm Morgannwg yn 15-0 oddi ar dair pelawd.
Daeth ergyd arall i’r ffin gan Rudolph oddi ar Arafat yn y bedwaredd belawd wrth i gyfanswm y tîm cartref symud ymlaen i 21-0.
Tarodd Allenby y bêl rhwng dau faeswr yn sgwâr ar ochr y goes am bedwar arall oddi ar Lewis yn y bumed pelawd yn seiniau ‘Gwŷr Harlech’ a atseiniodd yn uwch fyth wrth i Allenby daro ergyd sgwâr i’r eisteddle fawr, Morgannwg yn 33-0 erbyn diwedd y belawd.
Cafodd Stefan Piolet ei gyflwyno i’r ymosod ar gyfer y chweched pelawd, y ddau dîm ar union yr un sgôr ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
Y pelawdau canol
Ar ddiwedd y cyfnod clatsio cafodd Darren Sammy ei gyflwyno i’r ymosod ac fe gafodd belawd dawel ac eithrio cam-faesu gan Murray Goodwin.
Penderfynodd Morgannwg gyflwyno’r troellwr llaw chwith Dean Cosker i’r amddiffyn yn y belawd nesaf ac fe ildiodd bum rhediad yn unig ar lain oedd yn troi’n gynnar yn yr ornest.
Cafodd Sammy ei dynnu am bedwar gan Prior yn y nawfed belawd, wedi’i ddilyn gan ergyd griced draddodiadol drwy’r cyfar gan Joyce.
Pelawd dynn arall gan Cosker a ddilynodd i gyrraedd yr hanner ffordd, yr ymwelwyr yn 79-1, cyn i’r capten Jim Allenby benderfynu bowlio’r unfed belawd ar ddeg.
Sgubodd Prior dros ei ysgwydd am bedwar, gan faeddu Goodwin i’r ffin yn ystod pelawd lle ildiodd yr Awstraliad wyth rhediad.
Cafodd Joyce afael yn Cosker yn ei belawd nesaf, a’i dynnu am chwech cyn ei daro i’r awyr a llwyddo i ychwanegu dau rediad.
Ond bu bron i Cosker ei guro gyda’i belen nesaf, gan faeddu’r bat o drwch blewyn. Cyrhaeddodd y Siarcod gant o rhediadau gydag ergyd gan Prior yn syth dros ben Cosker i mewn i’r eisteddle.
Cafodd Joyce ei fowlio gan Allenby oddi ar belen gynta’r belawd nesa am 39. Pedwar ychwanegiad oddi ar y goes a ddilynodd cyn i Goodwin ollwng Prior gyda chyfle syml i’w ddwylo. Y belen nesaf, daliodd Goodwin ei afael ar y bel i roi ail wiced i Allenby yn y belawd, y cyfanswm bellach yn 107-3.
Symudodd Sammy i ben Heol y Gadeirlan yn y bedwaredd pelawd ar ddeg. Dangosodd Sammy ei ddoniau maesu oddi ar ei fowlio’i hun gan atal gyriad syth gan Rory Hamilton-Brown. Bu bron i Sammy gipio’i wiced gyntaf oddi ar belen ola’r belawd, Wallace yn neidio i’r awyr i apelio am ddaliad a gafodd ei wrthod.
Cafodd Allenby ei dynnu i gyfeiriad y pafiliwn ar ochr y goes am chwech gan Hamilton-Brown yn y belawd nesaf. Ailadroddodd Nash yr ergyd yn ddiweddarach yn y belawd cyn taro chwech i gyfeiriad yr afon oddi ar belen ola’r belawd – y cyfanswm yn 132-3 erbyn diwedd y bymthegfed pelawd.
Newidiodd y Siarcod eu tactegau ar gyfer y seithfed pelawd, y cyfyngiadau maesu bellach wedi’u llacio.
Manteisiodd y troellwr llaw chwith ar ei gyfle o ben afon Taf, gan ildio pum rhediad a chipio wiced Allenby am 26, wedi’i ddal gan y wicedwr Matt Prior i lawr ochr y goes, y cyfanswm yn 43-1.
Tarodd Murray Goodwin ergyd i’r ffin drwy’r ochr agored oddi ar belen gynta’r wythfed belawd gan Arafat, cyn i Rudolph daro colbad cryman nerthol i’r ffin i helpu Morgannwg heibio’r hanner cant.
Tro Yardy oedd hi i ddioddef yn sgil Rudolph yn y nawfed pelawd, wrth iddo gael ei daro’n syth i’r ffin cyn bowlio pelen wag lawn dros uchder y wast i ildio dau rhediad di-angen.
Daeth ergyd arall i’r ffin gan Rudolph cyn i’r belawd ddod i ben gyda chyfanswm Morgannwg yn 70-1.
Y bowliwr cyflym llaw chwith Chris Liddle ddaeth i mewn i’r ymosod i fowlio pelawd rhif deg, ac fe gipiodd wiced Goodwin am wyth rhediad, y cyfanswm wedi symud yn araf i 74-2 ar yr hanner, bum rhediad y tu ôl i’r Siarcod ar yr un adeg yn y batiad.
Yn seiniau ‘Doo-wah-diddy’ ar y trombôn yn yr eisteddle fawr, daeth batiad Mark Wallace i ben am un, wedi’i ddal gan Nash oddi ar fowlio Wright, y cyfanswm yn 76-3.
Tarodd Cooke bedwar arall wrth i gyfanswm Morgannwg gyrraedd 90-3 erbyn diwedd y ddeuddegfed pelawd.
Parhaodd y clatsio oddi ar Nash yn y belawd nesaf, Cooke yn ei daro i gyfeiriad yr afon am bedwar cyn i Prior ei ollwng oddi ar y belen nesaf.
Pedwar arall a ddilynodd, y sgubiad wrthol yn dwyn ffrwyth i Cooke wrth i Forgannwg fynd heibio’r cant oddi ar belen ola’r drydedd belawd ar ddeg.
Clatsio wnaeth Cooke yn y belawd nesaf hefyd, gan daro Liddle i’r ffin cyn i’r gŵr ifanc sy’n enedigol o Dde Affrica oroesi apêl am goes o flaen y wiced.
Fe darodd y belen olaf oddi ar fawd ei droed i ffin y goes fain, y cyfanswm yn 114-3 erbyn diwedd y belawd.
Stefan Piolet fowliodd y bymthegfed pelawd o ben afon Taf ac fe gyrhaeddodd Rudolph ei hanner cant cyn cael ei ddal ar y ffin canol-wiced gan Ed Joyce, y cyfanswm erbyn diwedd y belawd yn 122-4, yr ymwelwyr ddeg rhediad ar y blaen o gymharu’r ddau gyfanswm.
Y pelawdau clo
Un belawd yn unig barodd Sammy cyn i Cosker ddychwelyd a chipio wiced Nash am naw, wrth iddo yrru i gyfeiriad Wagg i’r ochr agored.
Gorffennodd Cosker gydag un wiced am 30 ar ddiwedd ei bedair pelawd.
Dychwelodd Wagg ei hun o ben afon Taf yn y belawd nesaf a chadw’r pwysau ar yr ymwelwyr cyn i Hogan ddychwelyd o ben Heol y Gadeirlan yn y ddeunawfed belawd.
Gwnaeth Will Owen arbed pedwar rhediad oddi ar belen gynta’r belawd, gan neidio i’w ochr chwith fodfeddi o flaen y rhaff.
Ceisiodd ailadrodd ei gamp oddi ar belen ola’r belawd, ond symudodd y cyfanswm i 158-4 gyda dwy belawd yn weddill, Ben Brown yn ergydio i’r ffin.
Bu bron i’r Siarcod golli wiced oddi ar belen gynta’r belawd nesaf, y batwyr yn drysu’i gilydd cyn i Brown oroesi ymgais i’w redeg allan.
Ergydiodd Hamilton-Brown i’r awyr oddi ar belen nesaf Wagg ond glaniodd y bel yn ddiogel gan ychwanegu dau rediad at gyfanswm yr ymwelwyr, cyn i’r batiwr uchelgeisiol gael ei fowlio oddi ar y belen nesaf, y cyfanswm yn 162-5.
Daeth 162-5 yn 162-6, diolch i ddaliad campus gan Cosker yn safle’r pwynt i anfon Hamilton-Brown yn ol i’r cwtsh.
Stefan Piolet wynebodd a goroesodd y belen dri-thro ond bu bron iddo redeg ei hun allan ym merw’r hwyl.
Tynnodd Brown belen gynta pelawd ola’r batiad am bedwar i ganol-wiced oddi ar Hogan i ymestyn y cyfanswm i 166 cyn ergydio trwy’r cyfar am bedwar arall oddi ar y belen nesaf.
Ond buan y daeth y clatsio i ben, wrth i wiced ganol Brown gael ei thaflu i’r awyr oddi ar belen syth gan yr Awstraliad, y seithfed wiced yn cwympo gyda’r cyfanswm yn 170.
Daeth Hogan o hyd i ymyl bat Piolet oddi ar belen ola’r batiad, yr ergyd i’r ffin yn golygu bod y Siarcod yn gorffen y batiad ar 178-7.
Dryswch fu ar ddechrau unfed belawd ar bymtheg Morgannwg, wrth i’r troellwr llaw chwith Michael Yardy anafu’i ysgwydd wrth geisio bowlio dwywaith ac fe fu’n rhaid iddo adael y cae gyda phedair pelen yn weddill o’r belawd, eisoes wedi’i daro am chwech gan Ben Wright.
Chris Liddle gwblhaodd y belawd a chael ei daro am bedwar a chwech gan Wright wrth i Forgannwg glosio at eu nod.
Gyda nod o 37 oddi ar bedair pelawd, Stefan Piolet fowliodd yr ail belawd ar bymtheg mewn ymgais i geisio cau’r llifddorau, y dorf bellach yn morio canu ‘Hymns and Arias’ i gyfeiliant y trombôn.
Dychwelodd Wright i’r cwtsh am 15, gan adael 3.3 o belawdau i seren y sioe, Darren Sammy arwain y Cymry i fuddugoliaeth.
Wedi rhedeg rhediad cyflym, Cooke wynebodd y belen nesaf a tharo pedwar oddi ar Piolet cyn cloi’r belawd, 34 o rediadau yn wedill ar gyfer y fuddugoliaeth wrth gyrraedd 150.
Tarodd Cooke bedwar a chwech oddi ar Arafat yn y belawd nesaf i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 25 o belenni.
Sammy wynebodd belen gynta’r belawd olaf ond un, y nod bellach yn 18 oddi ar 12 o belenni.
Tarodd Cooke bedwar oddi ar ail belen y bedwaredd belawd ar bymtheg i adael nod o 13 oddi ar 10 o belenni, cyn taro ergyd i’r ffin trwy’r cyfar, gan adael i Sammy edmygu ei ymdrechion o’r pen arall.
Ond cafodd Sammy ddweud ei ddweud cyn diwedd yr ornest, gan daro pedwar oddi ar ei goesau ac oddi ar fowlio Liddle – y nod yn bedwar oddi ar saith o belenni.
Cafodd y llwyfan ei gosod ar gyfer Sammy, felly, ag un rhediad yn weddill i ennill.
Tarodd y bêl yn syth i’r awyr ond fe laniodd yn ddiogel i sicrhau’r fuddugoliaeth i Forgannwg o bum wiced.