Hugh Morris
Mae cyn gapten tîm criced Morgannwg yn mynd i adael ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Bwrdd Criced Lloegr a Chymru er mwyn dychwelyd i’w hen glwb.
Hugh Morris yw Prif Weithredwr a Rheolwr gyfarwyddwr newydd Morgannwg.
Mae’n cymryd lle’r Prif Weithredwr presennol, Alan Hamer, sy’n gadael Morgannwg ar ddiwedd y tymor.
Dywedodd Hugh Morris ei fod yn ddiolchgar iawn i Gadeirydd Morgannwg, Barry O’Brien a phwyllgor Morgannwg am gynnig y cyfle iddo “a sialens newydd a chyffrous.”
Mae’n bwriadu taclo’r sialens newydd gydag egni, brwdfrydedd ac archwaeth, meddai.