Roedd gerddi  Trentham ger Stoke yn llawn bwrlwm bore ma’.  Roedd y Tour Of Britain wedi cyrraedd, ac roedd  nifer wedi  dod i weld sêr y byd  seiclo.

Bu bws Tîm Sky yn cael y rhan fwyaf o’r sylw – mae Bradley Wiggins a Mark Cavendish  yn enwog erbyn hyn.

Sylwebu

Mi  lwyddais i gael gair â’r cyn beiciwr Rob Hayles, sy’n darlledu’r ras i ITV. Dywedodd: “Bydd y cymal fory yng Nghymru yn holl bwysig, gyda mynydd Caerffili yn cael ei ddringo ddwywaith.”

Gofynnais sut mae bod tu ôl i’r meicroffon, yn hytrach  na rasio yn cymharu:  “Mae fy nyddiau i wedi bod, ac, ar ôl y tywydd ddoe rwy’n falch  i fod yn y blwch sylwebu,” meddai Hayles.

Awgrymodd Hayles y gall Luke Rowe ennill y ras.

Gobeithion

Roedd rheolwr  teamyouthuk, Dave Povall o Gasnewydd, yn hapus â pherfformiad y tîm hyd yn hyn.

“Uchelgais y tîm yw cael Yanto Barker, yn wreiddiol o Fachynlleth yn y deg uchaf, neu ennill cymal,” meddai  Povall.

Mae cymal heddiw yn 147km sef 91.4 milltir ond, yn wahanol i ddoe, mae’r  haul yn gwenu.

Adroddiad: Tommie Collins