Fe gyhoeddodd Stephen Hendry ddoe ei bod yn ymddeol o fyd snwcer, ar ôl colli yn y rowndiau chwarteri i Stephen Maguire ddoe.
Gellir dadlau mai Stephen Hendry oedd y chwaraewr gorau erioed i gystadlu yn y gamp.
Hendry oedd y pencampwr byd ieuengaf, pan enillodd yn y Crucible yn 21 oed yn 1990. Aeth ymlaen i fod yn bencampwr chwe gwaith yn y naw mlynedd nesaf.
Ar ôl disgleirio yn y 90au, dim ond un rownd derfynol bu Hendry yn rhan ohono yn y degawd nesaf.
Yr oedd yn eistedd yn y safle rhif 1 am wyth mlynedd (1990-1998) ac yna eto yn fyr yn 2006 i 2007.
‘‘Rwyf wedi ymddeol yn swyddogol o snwcer, fe wnes i’r penderfyniad tri mis yn ôl,’’ meddai Hendry.
‘‘Yr oedd yn benderfyniad hawdd. Roedd yna nifer o resymau am ymddeol. Nid oeddwn yn chwarae ar fy ngorau ac nid oeddwn yn mwynhau ymarfer.
“Roeddwn yn cael fy nghuro yn y rowndiau cyntaf a’r ail rownd, ac ar ôl ychydig fe ddaeth yn ormod i mi. Ond wedi dweud hyn, rwyf yn hapus iawn gyda fy ngyrfa,’’ ychwanegodd Hendry.