Mae tîm seiclo Sky wedi cyhoeddi bod ail Gymro wedi ymuno â’u carfan ar gyfer y tymor seiclo newydd.

Bydd Luke Rowe o Gaerdydd yn ymuno â Geraint Thomas yn y tîm Prydeinig ar gyfer 2012.

Mae’n rhan o garfan o 28 a gafodd ei chyhoeddi gan Sky heddiw – un arall o’r enwau newydd yn y garfan yw personoliaeth chwaraeon Prydeinig y BBC ar gyfer 2011, Mark Cavendish.

Daeth Rowe i sylw yn ras ffordd Gemau’r Gymanwlad yn 2010, gan orffen yn y nawfed safle.

Mae’n ymuno â thîm Sky ar gytundeb dwy flynedd o hyd.

Carfan lawn Sky ar gyfer 2012:

Davide Appollonio, Michael Barry, Edvald Boasson Hagen, Mark Cavendish, Alex Dowsett, Bernhard Eisel, Juan Antonio Flecha, Chris Froome, Mathew Hayman, Sergio Henao, Jeremy Hunt, Peter Kennaugh, Christian Knees, Thomas Löfkvist, Lars-Petter Nordhaug, Danny Pate, Richie Porte, Salvatore Puccio, Michael Rogers, Luke Rowe, Ian Stannard, Kanstantsin Siutsou, Chris Sutton, Ben Swift, Geraint Thomas, Rigoberto Urán, Bradley Wiggins and Xabier Zandio