Mae’r Gymraes Tesni Evans yn rownd gyn-derfynol y sboncen yng Ngemau’r Gymanwlad ar ôl curo Laura Massaro o Loegr ar Arfordir Aur Awstralia.
Enillodd y ferch o’r Rhyl o 3-1, ac mi fydd hi’n wynebu Sarah-Jane Perry o Loegr yn rownd y pedwar olaf.
Roedd gan Laura Massaro dri chyfle i gipio’r fuddugoliaeth cyn i’r Gymraes ennill – mae hi bellach wedi curo’r Saesnes dair gwaith yn olynol.
Medal i seiclwr
Yn y cyfamser, mae’r para-seiclwr James Ball a’i beilot Peter Mitchell yn sicr o gael y fedal arian, os nad y fedal aur.
Roedden nhw’n ail gyflymaf y tu ôl i’r Albanwyr Neil Fachie a Matt Rotherham, sydd wedi torri record y byd. Bydd y ddau bâr yn herio’i gilydd am y fedal aur.