Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock wedi lladd ar reolwr Wolves, Nuno Espirito-Santo yn dilyn y gêm yn y Bencampwriaeth neithiwr.
Collodd yr Adar Gleision o 1-0 ar ôl methu gyda dwy gic o’r smotyn yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau.
Ar ddiwedd y gêm, fe wnaeth Espirito-Santo wrthod siglo llaw ei wrthwynebydd, ac fe gafodd Warnock ei weld ar gamera yn ei regi.
Mae’r canlyniad yn golygu bod naw pwynt o flaenoriaeth gan Wolves ar frig y tabl wrth iddyn nhw fynd am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Ers y gêm mae rheolwr Wolves wedi ymddiheuro am y digwyddiad.
‘Gwarthus’
Ar ddiwedd y gêm, dywedodd Neil Warnock: “Wna i ddim derbyn ei ymddiheuriad. Mae e’n hollol anghywir.
“Ym mhêl-droed Prydain, rydych chi’n siglo llaw’r rheolwr ar ôl [y gêm]. Roedd hi’n gêm wych, maen nhw wedi cael buddugoliaeth wych ac ro’n i’n credu bod hynny’n dangos diffyg urddas, os ydw i’n onest.
“Es i i siglo’i law ac fe redodd e i ffwrdd, dyna wnaeth e. Dyna mae e’n ei wneud, dyna sut wnaethon nhw ei ddysgu fe ym Mhortiwgal, digon teg, ond nid ym Mhrydain.
“Gall e ddweud unrhyw beth ar ôl y gêm, dw i’n siarad am yr adeg pan fo’r chwiban yn mynd, dyna ddylai ei wneud. Yr arfer, y moesau, yr urddas.”
Dywedodd nad oedd “angen” rhedeg i ffwrdd, a bod hynny’n “warthus”.
Ymddiheuriad
Yn ddiweddarach, dywedodd Nuno Espirito-Santo: “Mae gen i gyfle nawr i ddweud bod yn flin gen i am yr hyn wnes i, dw i eisiau i Neil wybod hynny.
“Mae’n anodd iawn pan ydych chi’n emosiynol, yr unig berson yn fy meddwl oedd [y golwr] John Ruddy ac ro’n i eisiau rhoi coflaid enfawr iddo fe.”