Fe fydd y cyflwynydd teledu, Gethin Jones, yn cefnogi tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar ôl cael ei benodi’n ‘attaché’ swyddogol ar yr Arfordir Aur yn Awstralia.

Fe fydd yn treulio 11 diwrnod yn Awstralia yn rhinwedd ei swydd yn cefnogi swyddogion, gwirfoddolwr ac athletwyr Cymru. Fe fydd yn codi proffil tîm Cymru ar wefannau cymdeithasol yn ystod y Gemau.

Mae’n ymuno â llysgenhadon Cymru, Becky James, Christian Malcolm ac Elin Haf Davies.

‘Braint’

Ac yntau’n gyn-chwaraewr rygbi ac yn anturiaethwr, dywed Gethin Jones ei bod yn “fraint” cael derbyn y rôl.

“Mae ’na awyrgylch gwych o amgylch Gemau’r Gymanwlad wrth i ni gychwyn ar y daith i’r Arfordir Aur. Allwn i ddim bod balchach i sefyll drws nesaf i Non, Becky a Christian yn cefnogi ein hathletwyr anhygoel.

“Rydyn ni’n genedl filch, a does gen i ddim amheuaeth y bydd pawb adre’n aros ar ddihun i wylio’r campau i gyd!”

‘Dimensiwn gwahanol’

Dywedodd Chef de Mission Tîm Cymru, yr Athro Nicola Phillips y bydd Gethin Jones yn dod â “dimensiwn newydd” i’w rôl.

“Rydyn ni’n falch iawn fod Gethin wedi derbyn ein gwahoddiad i fod yn Attaché Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Arfordir Aur ac edrychwn ymlaen at ei groesawu yma.

“Bydd yn dod â dimensiwn gwahanol i’r tîm gan dynnu sylw at yr athletwyr a’r straeon am sut y daethant yn rhan o Dîm Cymru. Rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl gartref yn ogystal â’r tîm sydd yn Awstralia a bydd Gethin yn ein helpu i wneud hynny.

“Mae ein Chef de Mission a gweddill y ‘tîm tu ôl i’r tîm’ wedi gweithio’n ddiflino i baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur,” meddai wedyn.

“Gyda dim ond wythnos i fynd, mae’r paratoadau olaf yn cael eu gwneud ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod gan ein athletwyr y cyfle gorau bosib i berfformio hyd orau eu gallu.”

Bydd y Gêmau’n dechrau ar Ebrill 4 ac yn para tan Ebrill 15.