Mae’r Gymraes Menna Fitzpatrick a’i thywysydd Jen Kehoe wedi ennill y fedal aur yng nghystadleuaeth y slalom yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn Pyeongchang.

Roedden nhw eisoes wedi ennill dwy fedal arian a medal efydd yn Ne Corea, ac roedden nhw’n fuddugol o 0.66 eiliad yn y gystadleuaeth ddiweddaraf, a hynny ar ôl bod ar ei hôl hi o 0.66 eiliad ar ôl eu cynnig cyntaf.

Dyma fedal aur gyntaf Prydain yn y Gemau – eu hail fedal aur erioed.

Dywedodd Menna Fitzpatrick ar ôl ei buddugoliaeth ei bod hi “mor falch” o lwyddiant y ddwy sydd bellach yn bâr mwyaf llwyddiannus Prydain erioed yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf.

Menna Fitzpatrick

Cafodd Menna Fitzpatrick, sy’n 19 oed, ei geni â nam ar ei golwg, sy’n golygu ei bod hi’n hollol ddall yn ei llygad chwith, ac ychydig iawn o olwg sydd ganddi yn ei llygad dde.

Dechreuodd hi sgïo pan oedd hi’n bump oed, ac mae hi’n cael ei thywys gan Jen Kehoe ers 2015.

Mae’r ddwy yn cyfathrebu drwy declyn yn eu clustiau, a’r tywysydd yn gwisgo dillad llachar ar y llethr.