Bydd deunydd ar y we i helpu hyfforddwyr chwaraeon i ddysgu Cymraeg yn cael ei lansio mewn digwyddiad arbennig fis nesa’.
Mae’r deunydd yn cynnig dulliau o gynnwys yr iaith mewn sesiynau clybiau chwaraeon cymunedol ac wedi’i dargedu at siaradwyr Cymraeg yn ogystal â phobol ddi-Gymraeg.
Cafodd y deunydd ei ddatblygu gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth gan gyrff sy’n cynnwys Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a Rhedeg Cymru.
Mae Undeb Rygbi Cymru ymhlith y cyrff llywodraethu sydd eisoes wedi ymrwymo i ddefnyddio’r deunydd fel rhan o’u rhaglen hyfforddi.
Bydd yn cael ei lansio yn Stadiwm Swalec, Caerdydd, ar ddydd Sul, Mawrth 4.