Fe fydd y Gymraes, Tesni Evans, yn chwarae yn ei rownd derfynol gyntaf ym Mhencampwriaeth Sboncen Prydain ym Manceinion heddiw, wrth iddi herio Alison Waters o Loegr.

Curodd hi bencampwraig Lloegr, Laura Massaro yn y gêm gyn-derfynol mewn setiau olynol o 3-11, 8-11, 9-11.

Mae Massaro o Loegr yn bedwerydd ar restr detholion y byd.

Cafodd Tesni ei geni yng Nghaerdydd ac mae hi bellach yn byw yn Y Rhyl. Mae hithau’n ddeuddegfed ar restr detholion y byd.

Dywedodd hi ar Twitter ar ôl ei buddugoliaeth ddoe na allai hi “fod yn hapusach” wrth gyrraedd y rownd derfynol, gan ychwanegu, “Gobeithio am berfformiad da eto yfory v Alison Waters yn fyw ar BBC Sport neu squashtv am 5.30yp.”