Mae Elfyn Evans bellach bron i funud ar y blaen i’w wrthwynebwyr yn Rali GB Cymru.
Mae’r Cymro wedi mynd o nerth i nerth ers ddoe pryd yr enillodd dri allan o’r chwe phrawf cyflymder y rali mewn coedwigoedd llithrig ddoe.
Mae wedi ymestyn ei fantais ymhellach heddiw, drwy ennill pedwar prawf arall, drwy fod 2.5 eiliad ar y blaen i Thierry Neuville yn Aberhirnant a 3.5 eiliad ar y blaen i Andrewas Mikkelsen yn Dyfnant. Ar ôl ennill Gartheiniog a Dyfi, mae bellach 49.3 eiliad ar y blaen.
“Mae gynnon ni’r amodau perffaith heddiw, fydden ni ddim wedi gallu dymuno gwell,” meddai.
“Mi wnes i drio cadw’r cydbwysedd iawn. Roedd Dyfi yn fwy llithrig na’r disgwyl ond roedd yn rhesymol gyson. Mae’n edrych fel bod yr holl geir yn gwneud pethau’n fwy llithrig.”
Heddiw yw diwrnod olaf ond un y bencampwriaeth, a bydd y cystadlu’n parhau’r prynhawn yma yn Cholmondley Castle a phrofion ychwanegol yn Aberhirnant a Dyfnant heno.