Mae ras Rali GB Cymru wedi dechrau gyda’r Cymro Elfyn Evans yn dal ei dir yn y pumed safle ar hyn o bryd.
Neithiwr, fe aeth miloedd o bobol i Gwrs Rasio Tir Prince yng Nghonwy i wylio pencampwyr rhyngwladol yn rasio yn un o uchafbwyntiau blynyddol y byd ralïau.
Y Ffrancwr Sébastien Ogier, sy’n ceisio am ei bumed fuddugoliaeth, oedd ar y blaen, ac Elfyn Evans – y dyn leol 28 oed o Ddolgellau eiliad y tu ôl iddo yn y pumed safle.
Does yna neb o wledydd Prydain wedi ennill y ras ers i’r diweddar Richard Burns wneud hynny 17 o flynyddoedd yn ôl.
Mae tri diwrnod arall o’r ras ger Coedwig Clocaenog ar ôl a thocynnau ar gael hefyd.
Ceisio dal y pwysau
“Dw i’n ceisio peidio teimlo unrhyw bwysau. Dyma fy rali cartref a dw i eisiau ei fwynhau,” meddai Elfyn Evans.
“Byddwn ni’n canolbwyntio ar ein hunain ac yn gwneud y job orau y gallwn. Mae hwn yn rali hir ac anodd ac mae angen i ni fynd drwyddo gam wrth gam.
“Yn sicr, bydd yna rannau a fydd yn llithrig iawn, iawn. Efallai y bydd rhai o’r camau yn sychu yn ystod y cwlwm hir dydd Sadwrn… pwy ag ŵyr. Dydyn ni ddim yn cymryd dim yn ganiataol, ond rydym ni yma i geisio ennill.”