Mae Wayne Pivac wedi arwyddo estyniad i’w gytundeb i hyfforddi’r Scarlets, ar drothwy eu gêm fawr yn erbyn Gleision Caerdydd nos yfory yn Llanelli.
Dan y ddêl newydd bydd y dyn o Seland Newydd yn hyfforddi’r clwb hyd nes 2020.
O ran yr ornest nos yfory, bydd y canolwr Scott Williams yn arwain y Scarlets ddyddiau’n unig wedi’r siom o gael ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer cyfres yr Hydref.
Bydd yn cymryd lle Jonathan Davies, fydd yn cychwyn ar y fainc, fel yr unig newid i’r olwyr a gollodd wythnos diwethaf yn erbyn Caerfaddon yng Nghwpan Ewrop.
Mae dau newid yn rheng flaen y Scarlets gyda Ryan Elias yn cymryd lle Ken Owens yn safle’r bachwr a Werner Kruger yn cychwyn yn lle Samson Lee, sydd ddim hyd yn oed ar y fainc.
Mae’r Gleision yn siŵr o gynnig her eithaf i’r tîm cartref wedi iddyn nhw sicrhau dwy fuddugoliaeth o’r bron yng Nghwpan Sialens Ewrop.
Enillodd y Scarlets ddwywaith yn erbyn Gleision Caerdydd y tymor diwethaf a tydi tîm y brifddinas ddim ond wedi ennill ym Mharc y Scarlets unwaith ar eu hwyth ymweliad diwethaf.
Pump newid i’r Gleision
Mae’r Gleision wedi gwneud pump newid i’w tîm ond mae Kristian Dacey yn parhau yn gapten er bod pedwar o’r newidiadau yn y pac. Daw Brad Thyer a Dillon Lewis i mewn i gwblhau’r rheng flaen gyda Seb Davies yn dod oddi ar y fainc i’r ail-reng ac Olly Robinson yn flaenasgellwr.
Daw Willis Halaholo i mewn i’r canol yn bartner i Ray Lee-Lo fel yr unig newid ymysg yr olwyr.
Bydd tri o gyn chwaraewyr y Scarlets, Matthew Rees, Josh Turnbull a Steve Shingler yn cychwyn ar y fainc
Scarlets v Gleision Caerdydd ym Mharc y Scarlets ar Sadwrn 28ain Hydref, cic gyntaf 7:35 – gêm yn fyw ar S4C.
Tîm y Scarlets
Leigh Halfpenny, Johnny Mcnicholl, Hadleigh Parkes, Scott Williams(capten), Steff Evans, Rhys Patchell, Gareth Davies, Wyn Jones, Ryan Elias, Werner Kruger, Jake Ball, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, Will Boyde, Tadhg Beirne
Ar y fainc; Ken Owens, Dylan Evans, Simon Gardiner, David Bulbring, Josh Macleod, Jonathan Evans, Paul Asquith, Jonathan Davies
Tîm Gleision Caerdydd
Matthew Morgan; Alex Cuthbert, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Blaine Scully; Jarrod Evans, Tomos Williams; Brad Thyer, Kristian Dacey (capt), Dillon Lewis, Seb Davies, James Down, Josh Navidi, Olly Robinson, Nick Williams.
Ar y fainc; Matthew Rees, Corey Domachowski, Keiron Assiratti, Macauley Cook, Josh Turnbull, Lloyd Williams, Steve Shingler, Rhun Williams.