Mae Becky Brewerton wedi ennill cystadleuaeth golff Tenerife Ladies Match Play er mwyn sicrhau ei trydedd fuddugoliaeth ar daith Ewropeaidd y menywod.
Cafodd Brewerton ei gwthio’n agos gan Carlota Ciganda o Sbaen a Nikki Garrett o Awstralia.
Ond roedd rownd olaf o 68 yn ddigon i gipio’r fuddugoliaeth a £35,300 o wobr am ei llwyddiant.
Mae Brewerton eisoes wedi ennill Pencampwriaethau Agored Lloegr a Sbaen yn y gorffennol.
Ond dyma’r tro cyntaf i’r Gymraes ennill y gystadleuaeth yma ar ôl gorffen yn ail tair gwaith o’r blaen.
“Mae’n braf ennill y gystadleuaeth yma o’r diwedd ac mae wedi bod yn dipyn o amser ers i mi ennill unrhyw beth – felly mae’n deimlad ardderchog,” meddai Becky Brewerton.
“Rwyf wedi bod yn chwarae’n dda trwy’r wythnos ac mae cael gorffen â buddugoliaeth yn goron ar y cyfan.”
Mae Becky Brewerton yn gobeithio y bydd y fuddugoliaeth yn sbardun iddi wthio ymlaen ac ennill mewn cystadlaethau eraill.
“Mae yna gystadlaethau enfawr ar y ffordd ac rwy’n awyddus i ennill fy lle. Felly bydd rhaid i mi ennill gymaint o bwyntiau ag sy’n bosib.”