Nathan Cleverly
Bydd Nathan Cleverly yn wynebu Aleksy Kuziemski nos Sadwrn ar ôl i’w ail ddewis Tony Bellew fethu â chyrraedd y pwysau angenrheidiol ar gyfer yr ornest yn Llundain.
Fe gafodd y Cymro Cleverly ei enwi’n bencampwr is-drwm WBO y byd ddoe ar ôl i’r Almaenwr Juergen Braehmer dynnu ‘nôl o’u gornest ar y funud olaf.
Yn dilyn penderfyniad yr Almaenwr i beidio ag ymladd, fe gafodd gornest ei threfnu rhwng Cleverly â phencampwr is-drwm y Gymanwlad, Tony Bellew o Lerpwl.
Roedd Cleverly a Bellew bron â bod wedi cynnal eu gornest ddiwrnod ynghynt na’r disgwyl wrth iddyn nhw gael ffrae mewn cynhadledd i’r wasg ddoe.
Ond mae hyrwyddwr y Cymro, Frank Warren, wedi cadarnhau na fydd Bellew yn ymladd nos yfory oherwydd ei fod yn rhy drwm i’r adran is-drwm.
Felly bydd Nathan Cleverly yn wynebu Aleksy Kuziemski o Wlad Pwyl, sydd ond wedi colli ddwywaith mewn 23 gornest. Fe gollodd am y tro cyntaf yn ei yrfa yn erbyn Juergen Braehmer, gwrthwynebydd gwreiddiol Cleverley, nôl yn 2009.
Er gwaetha’r holl firi dros y dyddiau diwethaf, mae Nathan Cleverly yn dweud ei fod yn hapus I gael bocsio nos yfory.
“Y prif beth yw fy mod i’n dal yn cael ymladd a bod yr holl waith caled ddim yn mynd yn ofer,” meddai Nathan Cleverly.
“Ond rwyf wedi cael profiadau tebyg o’r blaen ac rwyf yn ddigon proffesiynol i ddelio gyda’r cyfan.
“Mae’n rhaid i mi anghofio am Braehmer a Bellew a chanolbwyntio ar Kuziemski. Mae ganddo record dda ac mae wedi ymladd sawl bocsiwr da yn y gorffennol.”