Higgins yn ennill pencampwriaeth y byd yn 2009
Fe fydd Mark Williams yn wynebu cyn bencampwr arall, John Higgins, yn rownd gyn derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd eleni.

Fe lwyddodd yr Albanwr i guro ffefryn y bobol, Ronnie O’Sullivan, trwy gipio wyth o’r deg ffrâm ola’ yn eu gêm yn rownd yr wyth ola’.

Ar un adeg, meddai Higgins, roedd yn meddwl ei fod ar y ffordd adre’ ac yntau 8-5 ar ei hôl hi ac yn chwarae’n wael.

Ond fe gafodd gyfres o rediadau da ac, meddai, roedd O’Sullivan wedi methu nifer o gyfleoedd.

Williams ar ei orau

Mae’n dweud y bydd Mark Williams yn wrthwynebydd caled wrth i’r chwaraewr o’r Cwm fod ar ei orau ers ennill y Bencampwriaeth yn 2003.

“Mae Williams wedi fy nghuro fi ddwywaith yn y rowndiau cyn derfynol ac mae’n ôl yn chwarae fel y gall.”

Fe fydd y gêm yn dechrau heno.