Mae Marathon Eryri yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Hydref 28, am y 35ain waith – ac mae bron i dair mil o redwyr yn cymryd rhan eleni.
Mae nifer yn cystadlu am y tro gyntaf, ac mae hyn yn wych i economi a thwristiaeth leol, un o rheiny sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf.
“Mae fy nheulu wedi bod yn hoff o chwaraeon erioed, roeddwn yn chwarae badminton a sboncen tan ryw wyth mlynedd yn ol,” meddai Carla Lauder o bentref Llan Ffestiniog.
“Ar ôl cael plant, roeddwn yn cael hi’n anodd ffitio chwaraeon i mewn, mi wnes ddechrau rhedeg yn lleol, mae’n eitha’ hawdd i jyst mynd i redeg. Hefyd, dw i’n berson eitha’ penderfynol, ac mi o’n i’n mwynhau’r rhyddhad o redeg, felly mi wnes i ddechrau cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol.
“Erbyn hyn, roedd clwb rhedeg lleol wedi cael ei sefydlu, oedd yn wych i gael ymuno â phobol o’r un meddylfryd â fi. Oedd pawb yn gyfeillgar… a dim ots pa lefel ydi rhywun mae pawb yn helpu’i gilydd.”
Ardal arbennig
“Mae’n rhaid i ni gofio bod ni’n byw mewn ardal arbennig,” meddai Carla Lauder wedyn. “Mi allwch chi seiclo ar y ffordd, neu ar lwybrau, a’r un peth efo rhedeg, mae Coed y Brenin ar ein stepen drws, ac mae’n ffantastig o le i redeg, mae cymaint o lwybrau yno.
“Mae nifer o ddigwyddiadau lleol yn bodoli rŵan, dw i wrth fy modd â Ras y Moelwyn, a dw i wedi gystadlu ddwywaith.
“Dw i hefyd wedi cymryd rhan yn Ras y Wyddfa ddwywaith, mi wnes gymryd 2 awr 17 munud y tro cynaf, a 2 awr 08 munud eleni, felly’r targed ydi o dan ddwy awr tro nesa’!”
Salomon trail
Er mwyn cael blas o redeg pellter marathon, fe fu Carla Lauder yn rhedeg y ‘Salomon trail’ ym mis Mehefin – digwyddiad caled a gymrodd 5 awr 45 munud i’w gwblhau.
Wedyn, fe redodd 18 milltir mewn tua 3 awr a hanner. Y gobaith y penwythnos hwn, meddai, ydi dim byd mwy na gorffen Marathon Eryri – “ond mi fasa’n dda cael ei wneud o mewn llai na pum awr”.
Mae Marathon Eryri yn cynnig dipyn o her, gan ei bod hi’n cael ei rhedeg ar uchder o 3,000 troedfedd. Mae’r ras yn cael ei hystyried yn un o’r rhai mwyaf a didrugaredd.
Ond, i fam i ddau o blant sy’n gweithio bob dydd, cael yr amser i ymarfer ydi’r her fwyaf.
“Dw u’n hunan gyflogedig, felly dw i’n ceisio gwneud dipyn o bellter ar ddydd Gwener,” meddai Carla Lauder. “Mae’r gŵr yn gefnogol iawn, ond mae’n anodd cael cydbwysedd a chadw’r teulu, gwaith ac ymarfer yn hapus.
“Dyna pam dw i’n edmygu’r rhedwraig Lowri Morgan – mae hi’n ysbrydoliaeth i ferched ledled Cymru.”