Brett Johns
Mae ffeit ymladdwr crefftau ymladd cymysg – Mixed Martial Arts – o Gymru nos yfory wedi cael ei symud i gategori pwysau agored.

Gornest pwysau bantam oedd hi i fod yn yr O2 yn Llundain rhwng Brett Johns o Bontarddulais ac Ian Entwistle.

Ond methodd y Sais â chyrraedd y pwysau angenrheidiol – 136kg – ac roedd dri phwys yn drymach na’r Cymro yn Llundain y bore yma wrth i’r ymladdwyr gael eu pwyso.

Felly mae’r Cymro yn derbyn 20% o bwrs ei wrthwynebydd er bod y ffeit dal yn digwydd.

Hon fydd ail ymddangosiad Brett Johns yn yr UFC (Ultimate Fighting Championship), yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Belfast yn lefel ucha’r gamp – y Cymro cyntaf erioed i ennill gornest UFC.

Bydd y Cymro’n ymladd ar yr un cerdyn â’i arwr Brad Pickett, fydd hefyd yn ymladd mewn categori agored yn erbyn Marlon Vera o Ecwador.