Ben Woodburn
Mae Dean Saunders wedi dweud bod yn rhaid capio Ben Woodburn yn erbyn Gweriniaeth yr Iwerddon yn ystod yr ornest yn Nulyn wythnos i heno.
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi dweud nad yw’r ffaith bod Ben Woodburn yn gymwys i chwarae i Loegr, yn rheswm dros gynnwys yr ymosodwr ifanc yn y garfan ar gyfer y trip i’r Werddon.
Y tymor hwn mae’r chwaraewr 17 oed wedi chwarae saith gwaith i Lerpwl, ac er iddo gael ei eni yn Nottingham mae wedi chwarae i dimau dan 16, 18 ac 19 Cymru. Mae yn gymwys i chwarae i Gymru oherwydd bod ei daid, ar ochr ei fam o’r teulu, yn Gymro.
Mae’r ornest yn Nulyn yn gêm enfawr i Gymru wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Er hynny, mae Dean Saunders wedi dweud wrth BBC Radio Wales y gallai ymosodwr ifanc Lerpwl ymdopi â’r gêm.
“Mae ganddo’r agwedd iawn a does dim byd yn ormod iddo. Mae gan y chwaraewyr gorau’r math yna o gymeriad,” meddai Dean Saunders a sgoriodd 22 gôl mewn 75 gêm dros Gymru.
“Nid yw yn edrych fel chwaraewr ofnus di-glem pan mae yn chwarae i Lerpwl. Mae yn chwaraewr talentog sy’n sgorio gôls.”