Mae Sabrina Fortune wedi ennill medal efydd yn y siot F20 yn y Gemau Paralympaidd yn Rio.

Taflodd hi bellter o 12.94 metr, ei pherfformiad personol gorau erioed, gyda’i thafliad olaf.

Hi yw’r gyntaf o blith yr athletwyr o Gymru i ennill medal yn y Gemau eleni.

Anastasiia Mysnyk o’r Wcráin gipiodd y fedal arian am dafliad o 13.24 metr, ac Ewa Durska o Wlad Pwyl ar y brig ac yn ennill y fedal aur am dafliad o 13.94 metr.