Mae honiadau bod aelodau o dîm nofio’r Unol Daleithiau sy’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd – ac sy’n honni eu bod nhw wedi dioddef lladrad – wedi difrodi drws garej yn ystod ffrwgwd ar noson allan yn Rio de Janeiro.

Yn ôl adroddiadau, roedd ffrae rhwng y tri a nifer o swyddogion diogelwch, ac fe ofynnwyd iddyn nhw dalu am y ddifrod.

Mae’r tri yn dal i fod yn Rio, tra bod pedwerydd aelod o’r tîm, Ryan Lochte wedi dychwelyd i’r Unol Daleithiau ddydd Llun.

Gwadu lladrad

Mae’r heddlu yn Rio yn dweud bod Lochte yn dweud celwydd am y lladrad gan ddyn arfog, ac nad oedd wedi digwydd mewn gwirionedd.

Dywedodd swyddog fod yr athletwyr wedi ceisio agor drws tŷ bach mewn garej oedd dan glo, a’u bod nhw wedi torri’r drws er mwyn cael mynediad.

Dyna pryd y digwyddodd y ffrwgwd, meddai’r heddlu, ac mai gan y swyddogion diogelwch yr oedd y dryll.

Yn ôl yr awdurdodau, dywedodd dau aelod o dîm nofio’r Unol Daleithiau wrth yr heddlu mai celwydd oedd y stori am y lladrad.

Athletwr o dîm Prydain…

Yn y cyfmser, mae aelod o dîm athletau Prydain yn Rio yn eu bod nhw hefyd wedi dioddef lladrad ar eu ffordd yn ôl i lety’r athletwyr yn Rio.

Yn ôl adroddiadau, defnyddiodd y lleidr ddryll yn ystod y lladrad yn oriau man fore Mawrth.

Mae tîm Prydain wedi cael eu hatgoffa i beidio â gwisgo cit athletau swyddogol os ydyn nhw’n gadael pentref yr athletwyr, ac i roi gwybod i swyddogion os ydyn nhw’n bwriadu aros oddi ar y safle dros nos.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Olympaidd Rhyngwladol nad oes bwriad i wahardd athletwyr rhag gadael y pentref dros nos er eu lles eu hunain.