Ellie Pryor
Mae tîm Codi Pwysau Cymru wedi dychwelyd adref o Bencampwriaeth Codi Pwysau’r Tair Gwlad Geltaidd yn yr Alban gyda llu o anrhydeddau.

Tîm Cymru enillodd y mwyaf o wobrau yn y frwydr flynyddol yn erbyn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac fe wnaeth Sam Henderson, 17, o Ynys Môn dorri record Brydeinig yn ei gategori.

Bu gwobrau hefyd i Ellie Pryor, 13, yn grŵp oedran dan 15; Catrin Haf Jones, 15, yn grŵp oedran dan 20; a Gareth Evans, 28, yn y categori hŷn.

Yn ogystal, torrwyd chwe record Gymreig yn y bencampwriaeth.

Meddai cyfarwyddwr perfformiad Codi Pwysau Cymru Simon Roach: “Y peth mwyaf dymunol i mi yw perfformiad ein hathletwyr ar draws y grwpiau oedran a’r categori pwysau. Mae gennym grŵp addawol ac rydym yn gweithio’n galed i’w datblygu i fod yn berfformwyr o’r radd flaenaf.

“Hyd yn oed cyn y digwyddiad hwn, roedd 80 record Gymreig wedi cael eu torri ers Gemau’r Gymanwlad, sy’n rhoi syniad o’r cynnydd yr ydym yn ei wneud.”