Y Ras Gychod
Mae’r rhwyfwr o Gymru, Ben Myers, wedi ei enwi yn nhîm Rhydychen ar gyfer y Ras Cychod blynyddol yn erbyn Caergrawnt.
Roedd y Cymro’n rhan o dîm Rhydychen a gollodd o bedair eiliad y llynedd.
Mae Ben Myers yn llywydd ar Glwb Cychod Prifysgol Rhydychen tymor 2010/11 ar ôl i Alec Dent ymddiswyddo oherwydd anaf.
Mae hefyd wedi cynrychioli Cymru yn regata’r gwledydd cartref rhwng 2007 a 2009.
Ben Myers yw’r unig aelod o dîm Rhydychen yn 2010 sydd wedi dychwelyd eleni wrth iddyn nhw geisio ail ennill y tlws.
Ond mae tasg anodd yn wynebu Rhydychen, ar ôl i Gaergrawnt enwi tri aelod o dîm buddugol y llynedd ar gyfer y ras ar 26 Mawrth.
Dywedodd Ben Myers fod gan Gaergrawnt y profiad, ond y byddai’r siom o golli y llynedd yn ysgogi Rhydychen.
Carfannau Ras y Cychod
Caergrawnt- Mike Thorp, Joel Jennings, Dan Rix-Standing, Hardy Cubasch, George Nash, Geoff Roth , Derek Rasmussen, David Nelson, Liz Box (cocsio)
Rhydychen- Moritz Hafner, Ben Myers, Alec Dent, Ben Ellison, Karl Hudspith , Constantine Louloudis, George Whittaker, Simon Hislop, Sam Winter-Levy (cocsio)