Syr Chris Hoy
Mae’r pencampwr seiclo, Syr Chris Hoy wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o fyd y campau.

Enillodd yr Albanwr 37 oed chwe medal Olympaidd yn ystod ei yrfa – y mwyaf i unrhyw Brydeiniwr – ac roedd e wedi bod yn ystyried cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow y flwyddyn nesaf.

Ond daeth cadarnhad mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaeredin ei fod e wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi.

Enillodd ddwy fedal aur yn Llundain yn 2012, gan guro record Syr Steve Redgrave.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd: “Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd na ffwrdd-â-hi, ond rwy’n gwybod mai nawr yw’r amser iawn.”