Er bod pethau llawer pwysicach yn digwydd yn y byd ar hyn o bryd, fe fu’r misoedd heb chwaraeon yn rhai rhyfedd ac anarferol i’r rheiny ohonom sydd wedi hen arfer â dilyn hynt a helynt ein timau drwy gydol y flwyddyn.
Daeth y byd chwaraeon i stop yn sydyn ganol mis Mawrth yn sgil y coronafeirws, heb sicrwydd o pryd fyddai modd dychwelyd i gaeau ar draws y byd.
Ond gydag awgrym fod y sefyllfa’n dechrau gwella, mae’r awdurdodau chwaraeon yn ceisio darganfod ffyrdd o gynnal gemau eto wrth gadw at gyfyngiadau’r llywodraeth, a sicrhau diogelwch chwaraewyr a chefnogwyr.
Pêl-droed
Mae Uwch Gynghrair Lloegr yn gobeithio cynnal gemau o Fehefin 17 pe baen nhw’n cael sêl bendith Llywodraeth Prydain.
Mae 92 o gemau i’w cynnal cyn diwedd y tymor, a’r gobaith yw y bydd y rownd gyntaf o’r gemau hynny wedi cael eu cynnal erbyn Mehefin 21.
Bydd yr holl gemau y tu ôl i ddrysau caëedig ac yn cael eu darlledu, tra bo’r heddlu’n gofyn fod rhai gemau’n cael eu cynnal ar gaeau niwtral, gan gynnwys gemau Lerpwl wrth iddyn nhw fynd am y tlws.
Mae disgwyl i rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr gael ei chynnal ar benwythnos Mehefin 27-28, y rownd gyn-derfynol ar Orffennaf 17-18, a’r rownd derfynol yn Wembley ar Awst 1.
O safbwynt timau Abertawe a Chaerdydd, mae trafodaethau ar y gweill i ailddechrau’r Bencampwriaeth ond mae disgwyl i Gasnewydd a Wrecsam orfod dirwyn eu tymor nhw i ben yn gynnar.
Criced
Tra bod disgwyl i India’r Gorllewin deithio i Loegr am gyfres o gemau prawf ym mis Gorffennaf, fydd dim criced ar lefel sirol cyn Awst 1.
Wrth gynnal gemau prawf y tu ôl i ddrysau caëedig, fe fydd y caeau’n dod yn “fio-ddiogel” ac mae’r awdurdodau’n ffafrio defnyddio dau gae yn unig, sef yr Ageas Bowl yn Southampton ac Old Trafford ym Manceinion, gan fod yno lety i’r chwaraewyr gael ynysu cyn y gemau.
Rygbi’r Undeb
Does dim dyddiad ar gyfer cynnal gemau rygbi et oar hyn o bryd, ond y gobaith yw gallu chwarae eto yn ystod yr haf.
Mae World Rugby, y corff sy’n gyfrifol am weinyddu’r gêm fyd-eang, am gyflwyno newidiadau i’r rheolau er mwyn gostwng faint o gyswllt corfforol sydd rhwng y chwaraewyr.
Mae disgwyl i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, sydd ar ei hanner, gael ei chwblhau yn yr hydref, ochr yn ochr â gemau rhyngwladol yr hydref.
Rygbi’r Gynghrair
Mae nifer o opsiynau dan ystyriaeth ar gyfer rygbi’r gynghrair, gyda phob opsiwn yn seiliedig ar ailddechrau ar Awst 16.
Bydd modd cynnal hyd at 28 rownd o gemau, gan orffen mor hwyr â mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Golff
Mae disgwyl i gystadlaethau’r PGA ddychwelyd o Fehefin 11.
Mae disgwyl i’r Daith Ewropeaidd drefnu chwe thwrnament y tu ôl i ddrysau caëedig, gan ddechrau ar Orffennaf 22 gyda Meistri Prydain.
Ond mae amheuon ar hyn o bryd am Gwpan Ryder, ddylai fod yn cael ei chynnal ddiwedd mis Medi.
Tenis
Mae twrnament chwe niwrnod wedi’i drefnu yn lle teithiau’r ATP a’r PTA ym mis Mehefin, gydag Andy Murray ymhlith y chwaraewyr fydd yn cystadlu, a’r cyfan yn cael ei ddarlledu gan Amazon Prime er lles y Gwasanaeth Iechyd.
Bydd Taith Prydain yn cael ei chynnal drwy gydol mis Gorffennaf, a’r gobaith yw y bydd modd cynnal Pencampwriaeth Agored Ffrainc gerbron torf rhwng Medi 20 a Hydref 4.
Rasio ceir Fformiwla Un
Mae disgwyl i Grand Prix Awstria fynd yn ei flaen ar Orffennaf 5, gydag wyth o rasys yn cael eu cynnal i gyd.
Mae’n fwriad cynnal Grand Prix Prydain yn Silverstone, ond fe fydd yn ddibynnol ar ganllawiau Llywodraeth Prydain erbyn hynny, lle mae gofyn i bobol o dramor ynysu am 14 diwrnod ar hyn o bryd.
Rasio ceffylau
Mae disgwyl i’r rasys cyntaf gael eu cynnal ar dir gwastad yn Newcastle ar Fehefin 1.
Bydd gofyn i’r jocis gael profion iechyd trylwyr a gwisgo mygydau.
Bydd rasys yn cael eu cynnal yn Newmarket ar Fehefin 5, a gŵyl Ascot o Fehefin 16.
Seiclo
Mae Taith y Byd UCI wedi’i haddasu a’r gobaith yw ei chynnal o Awst 1, gyda 25 o ddigwyddiadau.
Bydd y Tour de France yn cael ei gynnal ar lwybr gwahanol o Awst 29 i Fedi 20, a bydd y Giro d’Italia a’r Vuelta yn Sbaen yn cael eu cynnal ar yr un pryd ym mis Hydref.