Cyn mentro i Gwpan y Byd 2019 Japan ddiwedd yr haf nesaf, fe fydd yna gyfle i Warren Gatland baratoi ei garfan yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad unwaith eto.

Ar ôl gorffen yn wych y llynedd wrth ennill pob un gêm tymor y gaeaf, bydd y tîm yn gobeithio parhau i fynd o nerth i nerth y flwyddyn hon.

Gyda’i gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, mae’n debygol mai hwn fydd tymro olaf yr hyfforddwr Warren Gatland gyda Chymru.

Y gemau

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad:  Ffrainc v Cymru (Chwefror 1); Yr Eidal v Cymru (Chwefror 9); Cymru v Lloegr (Chwefror 23); Yr Alban v Cymru (Mawrth 9); a Cymru v Iwerddon (Mawrth 16).

Cwpan y Byd: Cymru v Georgia (Medi 23); Awstralia v Cymru (Medi 29); Cymru v Ffiji (Hydref 9); a Cymru v Wrwgwai (Hydref 13).