Fe fydd Ryan Giggs yn arwain tîm pêl-droed Cymru mewn grŵp sydd yn cynnwys Croatia, Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan wrth i’r ymgyrch ddechrau i gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewro 2020.

Mae’n ymddangos bod tasg enfawr o flaen y rheolwr a’r garfan ifanc sydd wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Denmarc ac Albania.

Fe fydd yn grŵp agos gyda llawer o’r timau yn debygol o gymryd nifer o bwyntiau oddi ar ei gilydd mewn ymgais i sicrhau eu lle yn Ewro 2020.

Y gemau

Slofacia v Cymru (Mawrth 24); Croatia v Cymru (Mehefin 8); Hwngari v Cymru (Mehefin 11); Cymru v Azerbaijan (Medi 6); Slofacia v Cymru (Hydref 10); Cymru v Croatia (Hydref 13); Azerbaijan v Cymru (Tachwedd 16); a Cymru v Hwngari (Tachwedd 19).