Fe fydd cyfle heno (nos Fercher, Ebrill 25) i groesawu tîm Cymru yn eu ôl o Gemau’r Gymanwlad, wrth i dderbyniad arbennig gael ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Enillodd Cymru 36 o fedalau – y nifer mwyaf erioed – ar Arfordir Aur Awstralia, gan gynnwys deg medal aur. Fe wnaethon nhw orffen yn seithfed yn y tabl medalau ar ddiwedd y Gemau.

Ymhlith y rhai fydd yno i’w cyfarch mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Fe fydd pob aelod o’r tîm yn derbyn medal arbennig o’r Bathdy Brenhinol, a byddan nhw’n cwrdd â chefnogwyr ar risiau’r Senedd o 6.30 ymlaen.

‘Cenedl falch’

Ar drothwy’r digwyddiad, dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones: “Mae Tîm Cymru wedi gwneud ein cenedl yn falch iawn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu’r athletwyr a’u hyfforddwyr i’r Senedd yn dilyn perfformiadau hanesyddol yng Ngemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur.”

Ychwanegodd fod llwyddiant ar y meysydd chwarae’n “ffordd o godi calon ac o ysbrydoli eraill”, a bod yr athletwyr “wedi gweithio’n galed i gynrychioli a hybu Cymru ar y llwyfan rhyngwladol”.

‘Dyfnder ac amrywiaeth’

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod llwyddiant Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn arwydd o “ddyfnder ac amrywiaeth yng nghyflawniadau chwaraeon y wlad”.

“Unwaith eto, rydym wedi profi fod Cymru’n genedl pencampwyr go iawn, sy’n cynhyrchu chwaraewyr all berfformio ar lwyfan y byd.”

Ychwanegodd y byddai’r digwyddiad heno’n “gyfle i ni ddathlu’r athletwyr gwirioneddol ysbrydoledig hyn”.

Bydd y digwyddiad yn fyw ar dudalen Facebook y Cynulliad, lle bydd cyfle i wylio cyfweliadau gyda rhai o’r athletwyr ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.