Bydd darpariaeth gweithgareddau corfforol a chwaraeon yn ailddechrau yn raddol yng Ngheredigion.

Ers dydd Llun (Mai 3), mae gan ganolfannau hamdden yr hawl i ailagor yng Nghymru, a bydd cyfleusterau hamdden Cyngor Sir Ceredigion, y Caeau Pob Tywydd, a’r Meysydd Chwarae yn ailagor dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r Cyngor Sir yn dweud fod yr amserlen yn ddibynnol ar beidio â chael cynnydd sylweddol mewn niferoedd achosion Covid-19 yn y sir.

Bydd y rhaglen ‘Cerdded er Lles’ yn ailddechrau ar Fai 17, a bydd dosbarthiadau ymarfer corff awyr agored, deunydd sefydliadau cymunedol o gyfleusterau awyr agored (gan gynnwys yn Llambed a Synod Inn), a meysydd chwarae yn ailagor ar Fai 28.

Fis Gorffennaf, bydd cyfleusterau hamdden dan do, Canolfannau Hamdden Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan, a Phwll Nofio Cymunedol Llanbed yn ailagor.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod y gallai’r dyddiadau hyn ymddangos i fod yn hwyrach na’r disgwyl, ond eu bod nhw wedi penderfynu arnynt er mwyn lleihau’r risg o unrhyw gynnydd mewn achosion.

Nid Canolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth yn cael ei defnyddio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda erbyn hyn, ond yn ôl y Cyngor Sir mae angen gwneud cryn dipyn o waith datgomisiynu ac adfer ar yr adeilad cyn gallu gweithredu fel cyfleuster hamdden. Nid oes dyddiad ar gyfer ei hailagor eto.

Ar hyn o bryd, mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn cael ei defnyddio fel Canolfan Brechu Torfol, a bydd yn parhau felly cyhyd a bo’r Bwrdd Iechyd ei hangen hi.