Arwel Gruffydd
Mae pennaeth y Theatr Genedlaethol wedi herio beirdd Cymru i ddilyn esiampl Bardd y Goron a chreu drama farddonol yn Gymraeg.
Dyna yw ail gamp fawr Gwyneth Lewis yr wythnos yma, yn ôl y Cyfarwyddwr Artistig, Arwel Gruffydd – trwy addasu drama Shakespeare, The Tempest, i’r Gymraeg.
“Deffrowch y Shakespeare ynoch chi,” meddai wrth y beirdd – mae “Y Storm” yn agor ar y Maes heno ac fe fydd yn cynnwys pedwar perfformiwr syrcas yn ogystal ag actorion.