Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen wedi penderfynu cyfrannu ei wobr o £5,000 i fudiad Dyfodol i’r Iaith.
“Gobeithio bydd yn cymell bobol eraill i gyfrannu,” meddai Robat Gruffudd.
“Os ydych chi’n edrych ar bopeth sy’n digwydd yn y Cynulliad o safbwynt yr iaith… mae’r pwyslais i gyd wedi bod ar statws.
“Mae hi’n bwysig bod yr iaith yn cael ei hystyried yn y broses gynllunio a bod y system yn ffafrio pobol leol. Mae eisiau creu polisiau sy’n edrych ar yr iaith o safbwynt economaidd.”
“Dw i’n gwybod, fel cyhoeddwr, os ydych chi’n ennill Gwobr Daniel Owen, ry’ch chi’n gwerthu mwy,” ychwanegodd Robat Gruffudd.