Roedd nofel erotig lesbaidd yn aflwyddiannus yng Ngwobr Goffa Daniel Owen heddiw.
Roedd chwech wedi ceisio am y wobr a Robat Gruffydd a ddaeth i’r brig.
Dywedodd un o’r beirniaid, John Rowlands, fod nofel erotig lesbaidd gan Hosan Hwran Fach Ifanc yn “gignoeth o onest” ond “braidd yn ailadroddus.”
“Dwi’n amau a fuasai Kate Roberts, hyd yn oed os yw honiadau ei chofiannydd yn wir, wedi ysgrifennu mor gignoeth,” ychwanegodd John Rowlands.