Dyfrig Evans yn y sioe
Mae Dividefaid – taith ddiweddaraf y Frân Wen – yn ‘taflu theatr Gymraeg i mewn i’r unfed ganrif ar hugain’.
Mae hi’n sioe sy’n atgoffa rhywun o nofelau fel Brave New World gan Aldous Huxley neu 1984 gan George Orwell, am fyd lle mae’r brawd mawr yn rheoli, ac rhyw gorfforaeth yn ein tymheru a’n tawelu. Technoleg yn deyrn a chymdeithas wedi mynd i’r gwellt.
Theatr gymunedol yw’r Frân Wen yn hytrach na theatr mewn addysg erbyn hyn ac mae’r cynhyrchiad wedi bod ar daith ledled neuaddau Gwynedd.
Mae’r cyfan yn aneglur, wrth i ‘Ring’ (yr actor Dyfrig Evans) yn ei ddillad meistr y syrcas dywys y gynulleidfa yn un rhes i mewn i sgwâr gwyn, yn union fel defaid.
Am ryw reswm, caiff pawb fand garddwrn lliwgar gyda’r geiriau ‘Perfect World’ arno (cwmni yw Perfect World sy’n clônio robotiaid er mwyn gwella’r byd).
‘Ring’ (Dyfrig Evans) sy’n arwain y digwyddiadau ond mae hi’n anodd ymddiried ynddo a chredu ei driciau a’i ffraethineb. A yw’n anghofio ei eiriau yn fwriadol ai peidio, wrth iddo edrych i fyw eich llygaid? A ddylen ni adael iddo ein corlannu i un ochr? Mae rhywbeth anghyffyrddus a ffraeth amdano ac mae yna awgrym ei fod wedi lladd merch fach yn y coed yn ei orffennol. Awgrym ac amwysedd yw’r cyfan.
Y cymeriad hynotaf yw’r creadur robotaidd (Andrea Edwards) â’r llais metelaidd fel Darth Vader. Hi yw mam atgas ‘Ring’, yn ei geryddu’n Saesneg ac yntau’n ymateb yn Gymraeg. Mae hi hefyd yn actio cymeriad Sbaenaidd tlawd sy’n dioddef trais a gormes.
Fel y dyfodol ei hun, does gan y gynuellidfa fawr o syniad beth sydd ar fin digwydd. Mae’r cwmni theatr wedi ceisio torri tir newydd wrth ddefnyddio ffilm tri-dimensiwn ar wal y sgwaryn gwyn.
Mae’r sioe yn sylwebaeth ar ein byd ni heddiw, ac yn rhybudd i bobol ifanc am y modd y gallai cyfrifiaduron a chorfforaethau enfawr ein rheoli, a chipio’n heneidiau. Efallai bod awgrym y gallen ni golli’n hunaniaeth os y daliwn ni ati. Ond pwy a ŵyr…
Dyma farn merch 13 a’i mam ar y sioe yng Nghapel Moreia, Bethesda:
Elin Haf Gruffydd, 13 oed, o Gaernarfon
“Oedd o’n rhyfedd. Doeddwn i ddim yn deall yn iawn yn y dechrau. Do’n i ddim yn gwybod be’ oedd o ar y dechrau. Roedd cael ein harwain yn ddoniol, ond yn frawychus. Roeddech chi’n ofn gwneud rhywbeth o’i le, a sefyll yn y lle anghywir.
Roedd wedi’i leoli yn y dyfodol. Roedd yn awgrymu bod pobol yn mynd i droi yn robotiaid. Swn i ddim yn licio byw bywyd fel’na, mi fuasai yn ffrici. I ddechrau roedd yn rhyfedd, ond roeddech chi’n arfer ag o, a gweld yr ochr ddoniol.
Dw i erioed wedi bod yn rhan o ddrama fel hyn o’r blaen lle rydach chi’n rhan o’r peth, mae o fel sioe hud a lledrith.
Byddwch chi’n mynd i’r sinema, yn eistedd lawr ac yn cael sbectolau 3D. Roedd hwn yr un fath ond eich bod chi’n rhan o’r ffilm. Yn y sinema, mae o jest yn edrych fel ei fod o’n dod atoch chi, ond yn fanma, roedden nhw yna go wir, yn sefyll o’ch blaen chi. Yn ffilmiau Twilight, fuasech chi ddim yna go wir efo’r actorion. Oeddech chi methu meddwl am ddim byd arall ond beth oedd yn digwydd yn y sgwâr. Roedd o’n dda.”
Rhianydd Newbery
“Oedd gyda fi ddim syniad beth oeddwn i’n dod i’w weld. O’n i’n disgwyl rhywbeth mwy traddodiadol, ac eistedd mewn cynulleidfa. Yn y dechrau do’n i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Efallai bod rhywun o fy oed i ddim digon relaxed i gymryd rhan, ond unwaith oedd rhywun yn sylweddoli bod yna bach o hiwmor ynddo fe, bod chi’n rhan o’r set, oedd e’n ddifyr iawn.
Ro’n i’n meddwl bod y set yn arbennig o glyfar, a’r sain a’r effeithiau a’r fideos. Doedd e ddim yn rhy hir. O’n i’n meddwl bod Dyfrig Evans yn ymateb yn dda i’r gynulleidfa, a oedd yn anodd ei wneud.
Roedd graen ar y gwaith. Ond efallai fuasai rhyw gyflwyniad bach yn y cychwyn yn dda, yn dweud ‘ymlaciwch, ymunwch i mewn…’ ond efallai bod rhesymau dros beidio â gwneud hynny.”
Non Tudur
* Mae Dividefaid ar daith tan Ragfyr 9