Y Pentref Drama Llun: Golwg360
Mae cwmni Theatr Bara Caws wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dathlu eu deugain mlynedd o fodolaeth eleni drwy berfformio ffars gan yr awdur Emlyn Gomer ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.
Cafodd y cwmni ei sefydlu yn wreiddiol yn Eisteddfod 1976 gan berfformio am y tro cyntaf y flwyddyn ganlynol yn Wrecsam.
Fe fyddan nhw’n perfformio’r ffars Dim Byd Ynni ar Theatr y Maes rhwng nos Sul a nos Fercher ddechrau Awst.
Yr arlwy – ‘deinamig a chyffrous’
Mae hyn yn rhan o raglen lawnach gan yr Eisteddfod Genedlaethol lle bydd perfformiadau drwy gydol yr wythnos yn y Pentref Drama sy’n cynnwys Theatr y Maes, Caffi’r Theatrau, Cwt Drama a Sinemaes.
Yn rhan o hyn fe fydd sioe un-dyn gan y comedïwr Stifyn Parri, perfformiad o Romans gan Theatr Fach Llangefni, cyflwyniadau gan Mair Tomos Ifans a chyfle i weld drama fuddugol y Fedal Ddrama y llynedd – sef Estron gan Hefin Robinson.
Bydd sesiwn arbennig i ddathlu bywyd a gwaith yr actor JO Roberts o Ynys Môn fu farw y llynedd ac a gafodd ei ddisgrifio gan Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, fel “actor toreithiog fu’n serennu yn rhai o ddramâu cofiadwy a grymus ei gyfnod.”
Yn ogystal, mae prosiect Theatr Unnos Cwmni’r Frân Wen yn dychwelyd eleni lle bydd criw yn ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio theatr wreiddiol mewn ugain awr.
“Mae’r Pentref Drama wedi datblygu llawer dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n ardal ddeinamig a chyffrous, sy’n adlewyrchu’r diwydiant ffilm a theatr fywiog sydd gennym yng Nghymru,” meddai Sioned Edwards ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol.