Y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni
Mae dau ddyn ifanc wedi torri record yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw, drwy fod y cyntaf i bortreadu dau gymeriad hoyw ar lwyfan y Pafiliwn.

Fe enillodd Gwion Morris Jones a Math Roberts, o Ynys Môn, gystadleuaeth y Deialog Agored a hynny drwy actio darn rhwng dau gymeriad hoyw.

Roedd y deialog yn gyfieithiad o ddrama Tony Kushner, Angels in America, sy’n cael ei ddisgrifio fel “ffantasia hoyw.”

‘Symud byd theatr ymlaen’

Roedd y ddau yn dweud bod tipyn o “symud ymlaen” wedi bod ym myd y theatr yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gyfeirio at ddrama ‘Llwyth’ gan Dafydd James, oedd yn amgylchynu perthynas pedwar dyn hoyw.

“Materion dipyn mwy dwys a diweddar, mwy rhywiol ei naws”, sydd i fyd y theatr erbyn hyn, meddai Gwion Morris Jones wrth golwg360.

“Ro’n ni’n meddwl pam cadw llwyfan yr Eisteddfod rhag hynny?” ychwanegodd.

Nid oedd y ddau yn ymwybodol eu bod wedi torri record gyda’u dewis o ddarn i’w berfformio ond roedden nhw’n falch iawn o glywed eu bod wedi gwneud.

“Roedden ni’n trio chwilio am rywbeth newydd, ffres, er mwyn gallu cyflwyno rhywbeth gwahanol i lwyfan yr Eisteddfod,” meddai Math Roberts.

Mae’r ddau yn 17 oed ac yn mynd i flwyddyn olaf y chweched dosbarth y flwyddyn nesaf, Gwion yn Ysgol Syr Thomas Jones a Math yn Ysgol Brynrefail.