Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Geoffrey Hayes, cyflwynydd y rhaglen i blant, Rainbow, sydd wedi marw yn 76 oed.

Mae’r actor a chyflwynydd teledu yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r sioe i blant, ynghyd a’r pypedau Zippy, George a Bungle.

Roedd wedi ymddangos mewn mwy na 1,000 o benodau Rainbow rhwng 1974 a 1992.

Bu farw Geoffrey Hayes o niwmonia yn yr ysbyty gyda’i wraig Sarah, a’i fab, Tom, wrth ei ochr, meddai ei reolwr Phil Dale.

Dywedodd: “Hoffai’r teulu ddiolch i’w holl gefnogwyr dros y blynyddoedd gan ei fod wedi rhoi llawer o bleser i Geoffrey i wybod ei fod e a thim Rainbow wedi dod a chymaint o hwyl i deledu a chynulleidfaoedd theatr dros y blynyddoedd.”

Mae nifer o deyrngedau wedi cael eu rhoi iddo ar Twitter, gyda phobl yn diolch iddo am ei bresenoldeb ar y teledu yn eu blynyddoedd cynnar.

Roedd Geoffrey Hayes hefyd wedi ymddangos yn y gyfres Z Cars yn y 1970au cynnar fel y Ditectif Gwnstabl Scatliff, ac yn fwy diweddar mewn rhaglenni fel Never Mind The Buzzcocks a Pointless Celebrities.