Fe fydd milfeddygon yn Aberystwyth yn torri tir newydd yr wythnos hon wrth i gyfres newydd am eu gwaith yn y practis ac allan yn y gymuned ddefnyddio technegau camera arloesol.
Mae cyfresi poblogaidd yn Saesneg fel Love Island, First Dates a One Born Every Minute, ac Y Salon ar S4C – wedi hen arfer â defnyddio camerâu rig sefydlog.
Ond cyfres newydd Y Fets yw’r gyfres filfeddygol gyntaf yn y Gymraeg i ddefnyddio’r dechneg hon.
Yn y gyfres chwe phennod sy’n dechrau nos Iau (7 Mehefin), mae’r camerâu wedi’u gosod o amgylch milfeddygfa Milfeddygon Ystwyth yn Aberystwyth, ac wedi’u cuddio mewn mannau lle na fyddai dynion camera yn gallu cyrraedd.
Mae’r tymor wyna wedi dechrau ac wrth ddilyn y camerâu rig sefydlog, y camerâu sengl a’r drônau, cawn weld pob eiliad o gyffro a phrysurdeb gwaith y milfeddygon.
‘Roedden ni’n anghofio bod y camerâu yna’
Ar drothwy’r gyfres, dywedodd Dafydd Jones, un o’r milfeddygon yn y feddygfa yn Aberystwyth, “Dyma’r tro cynta’ i mi wneud dim byd fel hyn ac roedd o’n gyffrous iawn. Chwarae teg, roedd y criw yn wych yn torri mewn i’r cefndir.
“Roedden ni’n anghofio bod y camerâu yna, dyna oedd y syniad, yn enwedig yn y feddygfa. Gweithiodd hynny’n dda, a gobeithio bod hynny’n dod drosodd yn y rhaglen bod ni ddim yn ymwybodol o beth oedd yn cael ei recordio.”
Anifeiliaid anwes, byd y fferm – ac ambell greadur ecsotig
Drwy gydol y gyfres, cawn gwrdd hefyd ag anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm traddodiadol – a hyd yn oed ambell anifail mwy ecsotig fel y geco a’r coati.
Ychwanegodd Dafydd Jones, “Ar yr ochr fferm, mae lot o waith y practis efo’r gwartheg, y defaid a’r ceffylau. O ran yr anifeiliaid anwes mae’r amrywiaeth yn parhau yn fan’no hefyd achos nid yn unig cŵn a chathod sydd, mae cwningod a phob math o bethau’n dod mewn – nadroedd ac adar er enghraifft. Eto, gobeithio bod hynny’n dod drosodd yn y gyfres, does dim dal be’ ddaw fewn o un funud i’r llall ar unrhyw ddiwrnod.”
Ac fe all hynny arwain at bob math o emosiynau o ddydd i ddydd yn y feddygfa.
Yn ogystal â rhoi gwellhad i anifeiliaid, fe fydd adegau trist pan na fydd hynny’n bosibl, fel yr eglura Dafydd Jones.
“Bydd y gwylwyr yn cael gweld bod adegau trist iawn ond adegau hapus iawn hefyd. Fyddwn ni ddim yn rhoi ffug-argraff i bobol o be’ sy’n mynd ymlaen.
“Mae pethau’n mynd o chwith efo anifeiliaid ac mae pob anifail yn cyrraedd diwedd ei oes a gobeithio y gallwn ni, yn y cyfamser, gadw’r anifail yn hapus. Rhan fawr o’r swydd yw gallu gwneud yn siŵr bod diwedd eu hoes nhw’n ddi-boen hefyd. Mae’n rhywbeth sy’n rhan annatod o’r swydd.”
Parau priod
Pâr priod yw dau o’r perchnogion, Phil Thomas a Kate O’Sullivan, a’r ddau ohonyn nhw’n filfeddygon.
Kate, sy’n enedigol o Ogledd Iwerddon ac sydd wedi dysgu Cymraeg, sy’n ymgymryd â holl lawdriniaethau mawr y practis.
Mae Phil, sy’n frodor o Aberystwyth, wedi gweithio yn yr Alban a Chambodia yn hyfforddi milfeddygon. Cawn gwrdd â’r pâr o’r dechrau’n deg wrth i ni ddod i adnabod rhai o brif gymeriadau’r gyfres.
Cawn gwrdd hefyd â Dafydd Jones, un o bartneriaid y practis sy’n arbenigo mewn anifeiliaid fferm. Mae’n briod â Diane Heyder-Bruckner, sydd hefyd yn gweithio fel milfeddyg yn y practis.
Cafodd Diane ei geni yn Sbaen a’i magu yn Ffrainc. A hithau’n amlieithog, mae ganddi hi a Dafydd ddau o blant bach sydd yn siarad Cymraeg a Ffrangeg yn unig.
Wrth drafod y cydbwysedd rhwng bywyd y cartref a’r byd gwaith, ychwanegodd Dafydd Jones, “Mae rhywbeth yn codi weithiau lle mae rhywun yn mynd â fo adre’ efo fo, felly mae’n amhosib gadael bob dim yn y swyddfa. Mae emosiwn y peth yn dod adre’ efo ni.”