Mae’r ffilm The Avengers: Infinity War wedi gosod record newydd yn yr Unol Daleithiau, gan sicrhau gwerthiant tocynnau o $250m (£181.5m) yn ystod ei phenwythnos cyntaf mewn sinemâu.
Mae hynny’n golygu ei fod wedi maeddu Star Wars: The Force Awakens fel y ffilm sydd wedi gwerthu’r nifer fwyaf o docynnau yn ystod ei phenwythnos cyntaf yn y wlad.
Ond yn ôl lefelau chwyddiant, mae’r ffilm Star Wars, a gafodd ei rhyddhau yn 2015, yn dal i fod ar frig y rhestr, wedi iddi werthu gwerth $260m (£188.5m) o docynnau yn ystod ei phenwythnos cyntaf, yn ôl arian heddiw.
Record byd
Yn ôl amcangyfrif Disney – y cwmni sy’n gyfrifol am y ffilm Marvel ddiweddaraf – mae disgwyl iddi osod record newydd yn y farchnad ryngwladol hefyd, a hynny gyda gwerthiant o $630m (£457m).
Daw’r amcangyfrif hwn er gwaetha’r ffaith nad yw’r ffilm wedi’i rhyddhau yn Tseinia eto.
Os yw’r rhagolygon hyn yn iawn, mi fydd y ffilm yn maeddu record The Fate of The Furious, a gafodd ei rhyddhau yn 2017, gan sicrhau gwerthiant tocynnau gwerth £457m.
Ffilm fawr
Mae’n debyg bod The Avengers: Infinity War, wedi costio tua £217.7m i’w chynhyrchu, a hynny dros gyfnod o 18 mis.
Mae’n cynnwys actorion enwog fel Robert Downey Jr. (‘Iron Man’), Chris Hemsworth (‘Thor’), Chadwick Boseman (‘Black Panther’), Chris Evans (‘Captain America’) a Mark Ruffalo (‘The Hulk’).
Mae disgwyl i ail ran y ffilm gael ei rhyddhau yn ystod yr haf y flwyddyn nesaf.