Y diweddar Ian McCaskill (Llun: BBC)
Mae dyn tywydd a fu’n gweithio i’r BBC am fwy nag ugain mlynedd, wedi marw yn 78 oed.
Bu farw Ian McCaskill ddydd Sadwrn (Rhagfyr 10) ar ôl brwydro â dementia dros y pum mlynedd diwetha’.
Mae penaethiaid y BBC wedi’i ddisgrifio fel un o gyflwynwyr tywydd mwya’ poblogaidd y gorfforaeth.
Ag yntau’n wreiddiol o Glasgow, roedd yn adnabyddus am ei acen Albanaidd ac ymunodd â’r BBC yn 1978 pan nad oedd hi’n gyffredin i gyflwynwyr fod ag acenion gwahanol.
Dechreuodd ei yrfa fel meterolegydd i’r Llu Awyr cyn symud ymlaen at y Swyddfa Dywydd a’r BBC.
Disgrifiodd ei ferch Kirsty ef yn ŵr, tad a thad-cu “a garai ei deulu yn ddiamod gan ddod â heulwen i fywydau pobol gyda’i wên gyfeillgar, ei garedigrwydd a’i ffraethineb bywiog.”