Mae cynghorydd ac ymgyrchydd iaith o Lanllyfni yn dweud fod un o gyfresi mwya’ llwyddiannus S4C hefyd yn arwydd o’n diffyg hyder yn yr iaith Gymraeg.
Yn ôl Craig ab Iago, fe ddylem fod â digon o hyder yn ein hiaith i beidio â ffilmio Y Gwyll/Hinterland gefn-yn-gefn, fel ein bod ni’n gwerthu’r rhaglen yn Gymraeg – gydag isdeitlau – i weddill y byd.
Ar hyn o bryd, o blith y pymtheg o wledydd sydd wedi prynu’r ddrama i’w darlledu ar deledu, dim ond Denmarc sy’n ei darlledu yn Gymraeg; mae’r gweddill wedi prynu y fersiwn Saesneg.
“Mae Hinterland/Y Gwyll yn dda,” meddai Craig ab Iago, “oherwydd yn wahanol i’r pethau eraill sy’n cael eu gwneud yng Nghymru ond sydd ddim byd i wneud â Chymru (fel Dr Who a Casualty) mae Y Gwyll yn defnyddio ein iaith a’n tirwedd a’n stori ni.”
Gwrandewch ar ddadleuon Craig ab Iago yn y fideo hwn: