Matthew Rhys, y llysgennad
Bydd y chweched ŵyl ffilmiau Gymraeg flynyddol i blant a phobol ifanc yn cael ei chynnal yn Galeri, Caernarfon dros y penwythnos.
Mae Gŵyl PICS, sydd â’r actor Matthew Rhys yn llysgennad arni, yn cynal penwythnos o weithgareddau, sgyrsiau, dangosiadau ffilm a seremoni wobrwyo i wneuthurwyr ffilm ifanc.
Bydd PICS yn agor fore Iau gyda dangosiad cyntaf yng Nghymru o’r ffilm Kiwi Flyer o Seland Newydd a, gyda’r nos, bydd yr adolygydd ffilm enwoca’ o’r cyfan, Barry Norman yn agor yr ŵyl yn swyddogol ac yn trafod ei hoff ffilmiau.
Bydd y penwythnos yn parhau gyda dangosiadau ffilm amrywiol a gweithdai ym meysydd sgriptio, colur, ffilmio bwletin newyddion a cherddoriaeth i ffilm gyda John Rea.
Seremoni wobryo
Y seremoni wobrwyo fydd pinacl yr Ŵyl, gyda ffilmiau Cymraeg neu heb iaith yn cystadlu am wobrau ariannol. Daeth ffilmiau o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gael eu hystyried am wobr – ond dim ond wtyh ffilm sydd ar y rhestr fer.
Yn ôl llefarydd ar ran Galeri: “Mae’r Ŵyl wedi bod yn tyfu yn flynyddol gyda dros 1000 o bobl yn mynychu fel arfer.
“Rydym yn falch iawn o gael Matthew Rhys yn llysgennad PICS ac hefyd yn ddiolchgar i gwmnïau teledu annibynol yr ardal am gydweithio a chynnig gwobrau i’r talentau ifanc sydd yn creu ffilmiau.
Dewud straeon yn eu hiaith eu hunain
Dywedodd Mathew Rhys mewn neges fideo ar wefan yr ŵyl ei fod yn “falch iawn o fod yn llysgennad yr ŵyl” a’i fod yn “meddwl ei bod hi’n wych fod pobol ifanc yn cael y cyfle i ddweud eu stori yn eu hiaith eu hunain.”
Ychwanegodd y llefarydd: “Pwrpas yr Ŵyl yw rhoi ffocws ar y diwydiant drwy ddangos a gwobrwyo ffilmiau byrion gan blant a phobol ifanc a chael sgyrsiau gyda phobol sydd wedi gweithio o flaen a’r tu ôl i’r camera.
“Ond beth sydd yn gwneud y digwyddiad yma yn gwbl unigryw yw bod y gweithdai, sgyrsiau a’r gwobrau yn hyrwyddo’r iaith ac yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg”