'Hud' (llun gan gylchgrawn Y Selar)
Mae’r grŵp indî Cymraeg, Creision Hud, wedi penderfynu newid eu henw.

O hyn allan, byddan nhw’n perfformio dan yr enw ‘Hud’ yn unig – yn ôl y grŵp mae un gair yn haws na dau!

Er i’r grŵp ffurfio rai blynyddoedd yn ôl, 2011 oedd y flwyddyn lle sefydlodd Creision Hud eu hunain go iawn gan ennyn llawer o sylw i’w prosiect uchelgeisiol i ryddhau un sengl bob mis yn ystod y flwyddyn.

Fe wnaethon nhw hefyd deithio dros Gymru gyda Sen Segur fel rhan o daith Slot Selar.

Perfformiodd y grŵp yn ei gigs cyntaf dan yr enw newydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ogystal â’r newyddion am yr enw newydd, mae Hud wedi addo y bydd chwech o draciau newydd gan y grŵp yn cael eu rhyddhau’n fuan.

Gallwch ddilyn newyddion diweddaraf Hud ar ei cyfrif Twitter @hudmusic